Print

Print


Dw i wedi edrych yng Ngeiriadur yr Academi, sy’n dweud ‘of animals’ an
‘heliwr’, ond, dan ‘hunt the thimble’ mae ‘hela’r gwniadur’. Mae ‘Helwyr’ yn
swnio’n fwy anturus yn sicr na ‘casglwyr’ (a hefyd mae ‘gatherers’ yn
ymddangos nes ymlaen yn y ddogfen), ond meddwl falle ei fod o braidd yn
chwithig wrth gyfeirio at blanhigion. Ac eto, rhaid cael rhywbeth y bydd
pobl yn ei ddeall, gan mai at y cyhoedd yn gyffredinol mae’r darn wedi’i
dargedu. Wn i ddim a fyddai pobl yn deal ‘fforwyr’ neu ‘cyrchwyr’?

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 05 January 2012 14:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: plant hunters

 

Dydi helwyr ddim yn swnio'n rhyfedd i Ogleddwyr, achos hel mwyar duon etc
fyddan ni - mae hel yn golygu casglu yn ogystal a rhedag ar ol anifeiliaid
diymgeledd!

Anna

2012/1/5 Rhian Huws <[log in to unmask]>

P’nawn da bawb.

 

Tybed all rywun helpu gyda’r uchod?

 

Mae’r darn yn sôn am bobl yn Oes Fictoria yn mentro i wledydd tramor i
gasglu planhigion egsotig ac yn rhoi eu bywydau yn y fantol er mwyn gwneud
hynny. I ddechrau fe feddyliais i am ‘Casglwyr’, ond tybed ydi hynny braidd
yn llipa/di-fflach? Ond wedyn, mae ‘helwyr planhigion’ yn swnio’n rhyfedd i
mi. Ai dim ond anifeiliaid sy’n cael eu hela?

 

Gan ddiolch am unrhyw gymorth

 

Rhian