Yn bersonol, byddwn i’n fodlon ar “casglwyr” – nid triffids mohonyn nhw? – ond dywed Bruce bod “casglwyr” efallai’n awgrymu rhywbeth rhy hawdd, ac y byddai’n awgrymu “chwilotwyr”. Ni ydym yn sicr, ond yn cael yr argraff bod angen “am” efo “fforio”, heblaw efallai y gallech chi fforio ardal yr Amason am blanhigion newydd? Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Pierce Jones Sent: 05 January 2012 14:26 To: [log in to unmask] Subject: Re: plant hunters Beth am ddefnyddio - fforio - mae hynny'n cyfleu antur y chwilio yn tydi? Fforwyr planhigion? ----- Original Message ----- From: Rhian <mailto:[log in to unmask]> Huws To: [log in to unmask] Sent: Thursday, January 05, 2012 2:21 PM Subject: plant hunters P’nawn da bawb. Tybed all rywun helpu gyda’r uchod? Mae’r darn yn sôn am bobl yn Oes Fictoria yn mentro i wledydd tramor i gasglu planhigion egsotig ac yn rhoi eu bywydau yn y fantol er mwyn gwneud hynny. I ddechrau fe feddyliais i am ‘Casglwyr’, ond tybed ydi hynny braidd yn llipa/di-fflach? Ond wedyn, mae ‘helwyr planhigion’ yn swnio’n rhyfedd i mi. Ai dim ond anifeiliaid sy’n cael eu hela? Gan ddiolch am unrhyw gymorth Rhian