Diolch i chi’ch tri. Wedi anfon y ddau
awgrym ymlaen, ond, yn bersonol, yn ffafrio’r cyd-lythrennu yn “Cynt a Chwedyn”.
Cofion,
Ann
From:
Sent: 01 January 2012 16:11
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Before and After
Dyna oedd fy nheimlad i,
ond dy fod ti wedi'i gyfleu yn well!
Anna
2012/1/1 <[log in to unmask]>
Cynt a Chwedyn yn cael fy mhleidlais i. Efallai ei fod yn 'hen ffasiwn'
i rai, ond mae harddwch yr iaith yn disgleirio drwyddo.
Sent from my BlackBerry device on the Rogers Wireless Network
From: anna gruffydd
<[log in to unmask]>
Sender:
Date: Sun, 1 Jan
2012 14:48:18 +0100
To: <[log in to unmask]>
ReplyTo:
Subject: Re: Before
and After
Faswn i'n awgrymu Cynt a
Chwedyn, neu Cynt ac Wedyn - maen nhw'n haws eu deud - ac mi faswn yn ffafrio'r
cynta am ei fod yn rhywbeth arbennig (fedra i ddim meddwl am ffordd well o'i
gyfleu o ar y funud
Anna
2012/1/1
Blwyddyn
newydd dda ichi i gyd – gobeithio, er hynny, fod rhywrai o gwmpas yn defnyddio
eu cyfrifiaduron heddiw.
yn
achosion cyn + wedi a cynt + wedyn:
HELP!
Mae
fy nghlust i, a chlust Bruce (pan nad yw’n son am “cynt a chwedyn”) yn dweud
“cynt a wedyn”, a dyna sydd gan Peter Wynn Thomas, ond mae Cysill yn cywiro “a
wedi/wedyn” i “ac wedi/wedyn”.
Ydy
hon yn adeg arall pan fydd pobl yn dweud wrthyf fy mod i’n gywir ond yn hynod o
hen ffasiwn? Beth ddylwn i awgrymu, os gwelwch yn dda, fel teitl ar gyfer
arddangosfa (sydd yn mynd i fod yn “Cyn ac Wedyn” os na chynigiaf rywbeth arall
yn reit sydyn, os nad yw hi’n rhyw hwyr eisoes!)?