Cytuno bob gair gyda phawb ynghylch ‘mewnwelediad’ – ychafi! Swnio fel gair y dylai rhywun fel Madam Sera ei  ddefnyddio!

 

Does gen innau ddim ateb, dim ond i ddweud, mai’r diffiniad yn ôl Chambers yw:

 

the ability to gain a relatively rapid, clear and deep understanding of the real, often hidden and usually complex nature of a situation, problem

 

Yng ngoleuni hynny felly, er bod ‘cipolwg’ yn swnio’n gynhenid ac yn naturiol, o bosibl ei fod ychydig yn gamarweiniol. Pan fydd y gair ynghanol brawddeg, dwi wedi defnfyddio ‘dealltwriaeth’ ambell waith, ond tydio ddim yn ‘snapi’ fel teitl.

 

Fawr o help i ti, sori!

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 27 January 2012 15:40
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: strategic insight programme

 

Ond ydi "cipolwg" ychydig yn arwynebol?

Oes angen cyfleu eu bod nhw'n dod i ddeall rhywfaint am y sefydliadau?

Oes posib gwneud rhywbeth â SIP yn Gymraeg?

Neu rywbeth arall fel "Golwg ar y Gweithle" (GAG).

Siwr mai'r rhaglen sy'n strategol, nid yr "insight"

 

Dim lot o help, sori!

 

Siân

 

 

 

On 27 Ion 2012, at 15:28, Carolyn wrote:



A hefyd, sut mae rhywun yn mynd i ddefnyddio 'mewnwelediad' mewn cystrawennau fel: 'to have a strategic insight?' 'Cael mewnwelediad strategol????' Mae'n mynd i arwain at lu o ymadroddiad hyll  - cytuno Osian - angen rhywbeth gwell. Mae cipolwg neu olwg yn well o lawer faswn i'n meddwl.

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Roberts, Nia
Anfonwyd/Sent: 27 Ionawr 2012 15:22
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: strategic insight programme

 

Clywch clywch! Dw i’n casáu ‘mewnwelediad’ hefyd am ‘insight’ ac mae’n well gen i ddefnyddio cipolwg neu ‘golwg’ os yw hyn o lith yn werth!

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 27 January 2012 15:19
To: [log in to unmask]
Subject: strategic insight programme

 

Helo bawb, gobeithio eich bod yn iawn ar bnawn dydd Gwener,

 

Dw i'n cyfieithu tipyn o destun ar gyfer "Strategic Insight Programme", rhaglen gymharol newydd yn ôl pob golwg ym maes addysg uwch. Bwriad y rhaglen yw anfon pobl ar leoliadau i wahanol sefydliadau er mwyn rhoi 'insight' iddyn nhw o'r modd mae'r sefydliadau hynny'n gweithio. Oes rhywun yn gwybod rhywbeth amdani?

 

Mae TermCymru yn cynnig "Rhaglen Mewnwelediad Strategol", ac mae hynny'n ymddangos ar Google hefyd. Fodd bynnag, ychydig iawn o enghreifftiau sydd ar y we mewn gwirionedd (os anwybyddwch chi hysbyseb swydd ddiweddar sydd fel pe bai wedi dyblygu mewn ugeiniau o wefannau gan asiantaethau swyddi ac ati). A statws 5 sydd i'r teitl ar TermCymru.

 

Fy hunan dw i ddim yn hoff iawn o'r gair "mewnwelediad". Alla i ddim dweud yn iawn pam, heblaw ei fod yn swnio fel gair gwneud braidd. Ai dim ond am ei fod yn ddierth? Beth yw barn pawb arall amdano? Mae'n well gen i ddefnyddio iaith syml wrth gyfieithu os oes modd o gwbl, er anodded yw gwneud hynny'n aml iawn...

 

Dw i'n gweld bod "cipolwg" ar TermCymru am insight mewn cyd-destunau eraill, a dw i'n teimlo y gallai hynny ffitio -- rhoi cipolwg ar waith sefydliadau eraill yw bwriad y rhaglen. A fyddai 'Rhaglen Cipolwg Strategol' yn iawn?? Neu oes gan rywun awgrym gwell?

 

Dw i awydd cysylltu â nhw i holi oes ganddyn nhw enw Cymraeg swyddogol, ond dw i'n rhyw feddwl falle nad oes; fel dwedes i, prosiect eitha newydd yw hwn yn ôl pob golwg, a does dim gair o Gymraeg ar eu gwefan www.siprogramme.org.uk na'u logo na dim. Felly ro'n i am holi eich barn chi ar y mater cyn cysylltu, yn rhannol rhag ofn mai dim ond fi sy'n meddwl ei fod yn air hyll. Os yw pawb yn gytûn ei fod yn air gwych, galla i barhau gyda "mewnwelediad" heb bryder. Ond mae'r pethau dw i'n eu cyfieithu yn bethau eitha elfennol ac mae'n bosib eu bod ymhlith y pethau cynta i gael eu cyfieithu am y rhaglen, felly dw i ddim am helpu i sefydlu "Rhaglen Mewnwelediad Strategol" fel enw arnyn nhw os oes rhai yn eich plith sy o'r farn y byddai rhywbeth arall yn well.

 

Ymddiheuriadau am anfon neges mor hir, ond gan fod y peth yn cymylu fy meddwl bob tro bydda i'n teipio'r gair, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw farn ar y mater!

 

Osian

 

 


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************