Print

Print


Cytuno bob gair gyda phawb ynghylch ‘mewnwelediad’ – ychafi! Swnio fel gair
y dylai rhywun fel Madam Sera ei  ddefnyddio! 

 

Does gen innau ddim ateb, dim ond i ddweud, mai’r diffiniad yn ôl Chambers
yw:

 

the ability to gain a relatively rapid, clear and deep understanding of the
real, often hidden and usually complex nature of a situation, problem

 

Yng ngoleuni hynny felly, er bod ‘cipolwg’ yn swnio’n gynhenid ac yn
naturiol, o bosibl ei fod ychydig yn gamarweiniol. Pan fydd y gair ynghanol
brawddeg, dwi wedi defnfyddio ‘dealltwriaeth’ ambell waith, ond tydio ddim
yn ‘snapi’ fel teitl.

 

Fawr o help i ti, sori!

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 27 January 2012 15:40
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: strategic insight programme

 

Ond ydi "cipolwg" ychydig yn arwynebol?

Oes angen cyfleu eu bod nhw'n dod i ddeall rhywfaint am y sefydliadau?

Oes posib gwneud rhywbeth â SIP yn Gymraeg?

Neu rywbeth arall fel "Golwg ar y Gweithle" (GAG).

Siwr mai'r rhaglen sy'n strategol, nid yr "insight"

 

Dim lot o help, sori!

 

Siân

 

 

 

On 27 Ion 2012, at 15:28, Carolyn wrote:





A hefyd, sut mae rhywun yn mynd i ddefnyddio 'mewnwelediad' mewn
cystrawennau fel: 'to have a strategic insight?' 'Cael mewnwelediad
strategol????' Mae'n mynd i arwain at lu o ymadroddiad hyll  - cytuno Osian
- angen rhywbeth gwell. Mae cipolwg neu olwg yn well o lawer faswn i'n
meddwl.

 

Carolyn

 

  _____  

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Roberts, Nia
Anfonwyd/Sent: 27 Ionawr 2012 15:22
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: strategic insight programme

 

Clywch clywch! Dw i’n casáu ‘mewnwelediad’ hefyd am ‘insight’ ac mae’n well
gen i ddefnyddio cipolwg neu ‘golwg’ os yw hyn o lith yn werth!

 

  _____  

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 27 January 2012 15:19
To: [log in to unmask]
Subject: strategic insight programme

 

Helo bawb, gobeithio eich bod yn iawn ar bnawn dydd Gwener,

 

Dw i'n cyfieithu tipyn o destun ar gyfer "Strategic Insight Programme",
rhaglen gymharol newydd yn ôl pob golwg ym maes addysg uwch. Bwriad y
rhaglen yw anfon pobl ar leoliadau i wahanol sefydliadau er mwyn rhoi
'insight' iddyn nhw o'r modd mae'r sefydliadau hynny'n gweithio. Oes rhywun
yn gwybod rhywbeth amdani?

 

Mae TermCymru yn cynnig "Rhaglen Mewnwelediad Strategol", ac mae hynny'n
ymddangos ar Google hefyd. Fodd bynnag, ychydig iawn o enghreifftiau sydd ar
y we mewn gwirionedd (os anwybyddwch chi hysbyseb swydd ddiweddar sydd fel
pe bai wedi dyblygu mewn ugeiniau o wefannau gan asiantaethau swyddi ac
ati). A statws 5 sydd i'r teitl ar TermCymru.

 

Fy hunan dw i ddim yn hoff iawn o'r gair "mewnwelediad". Alla i ddim dweud
yn iawn pam, heblaw ei fod yn swnio fel gair gwneud braidd. Ai dim ond am ei
fod yn ddierth? Beth yw barn pawb arall amdano? Mae'n well gen i ddefnyddio
iaith syml wrth gyfieithu os oes modd o gwbl, er anodded yw gwneud hynny'n
aml iawn...

 

Dw i'n gweld bod "cipolwg" ar TermCymru am insight mewn cyd-destunau eraill,
a dw i'n teimlo y gallai hynny ffitio -- rhoi cipolwg ar waith sefydliadau
eraill yw bwriad y rhaglen. A fyddai 'Rhaglen Cipolwg Strategol' yn iawn??
Neu oes gan rywun awgrym gwell?

 

Dw i awydd cysylltu â nhw i holi oes ganddyn nhw enw Cymraeg swyddogol, ond
dw i'n rhyw feddwl falle nad oes; fel dwedes i, prosiect eitha newydd yw hwn
yn ôl pob golwg, a does dim gair o Gymraeg ar eu gwefan
www.siprogramme.org.uk na'u logo na dim. Felly ro'n i am holi eich barn chi
ar y mater cyn cysylltu, yn rhannol rhag ofn mai dim ond fi sy'n meddwl ei
fod yn air hyll. Os yw pawb yn gytûn ei fod yn air gwych, galla i barhau
gyda "mewnwelediad" heb bryder. Ond mae'r pethau dw i'n eu cyfieithu yn
bethau eitha elfennol ac mae'n bosib eu bod ymhlith y pethau cynta i gael eu
cyfieithu am y rhaglen, felly dw i ddim am helpu i sefydlu "Rhaglen
Mewnwelediad Strategol" fel enw arnyn nhw os oes rhai yn eich plith sy o'r
farn y byddai rhywbeth arall yn well.

 

Ymddiheuriadau am anfon neges mor hir, ond gan fod y peth yn cymylu fy
meddwl bob tro bydda i'n teipio'r gair, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw farn
ar y mater!

 

Osian

 

 


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording
and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi
a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol 
*******************************************************************