Efallai byddai edrych dan “insight”
yn Geiriadur yr Academi yn rhoi ychydig o oleuni (insight?) ynghylch sut i
gyfieithu gwahanol ystyron y gair. Fel y dywedwch, gall fod ‘na deitl
erchyll ar y rhaglen eisoes, ond mae Bruce yn gofyn a fyddai “Rhaglen
Amgyffred Strategol” yn gwneud y tro – gyda llaw, rhaid ystyried pb
beth sy’n strategol, y rhaglen, ynteu’r “insights”?!
Ann
From:
Sent: 27 January 2012 15:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: strategic insight
programme
Clywch clywch! Dw i’n casáu
‘mewnwelediad’ hefyd am ‘insight’ ac mae’n well
gen i ddefnyddio cipolwg neu ‘golwg’ os yw hyn o lith yn werth!
From:
Sent: 27 January 2012 15:19
To:
[log in to unmask]
Subject: strategic insight
programme
Helo bawb, gobeithio eich bod yn iawn ar bnawn dydd Gwener,
Dw i'n cyfieithu tipyn o destun ar gyfer "Strategic Insight
Programme", rhaglen gymharol newydd yn ôl pob golwg ym maes addysg
uwch. Bwriad y rhaglen yw anfon pobl ar leoliadau i wahanol sefydliadau er
mwyn rhoi 'insight' iddyn nhw o'r modd mae'r sefydliadau hynny'n gweithio. Oes
rhywun yn gwybod rhywbeth amdani?
Mae TermCymru yn cynnig "Rhaglen Mewnwelediad Strategol", ac
mae hynny'n ymddangos ar Google hefyd. Fodd bynnag, ychydig iawn o
enghreifftiau sydd ar y we mewn gwirionedd (os anwybyddwch chi hysbyseb swydd
ddiweddar sydd fel pe bai wedi dyblygu mewn ugeiniau o wefannau gan
asiantaethau swyddi ac ati). A statws 5 sydd i'r teitl ar TermCymru.
Fy
Dw i'n gweld bod "cipolwg" ar TermCymru am insight mewn
cyd-destunau eraill, a dw i'n teimlo y gallai hynny ffitio -- rhoi cipolwg ar
waith sefydliadau eraill yw bwriad y rhaglen. A fyddai 'Rhaglen Cipolwg
Strategol' yn iawn?? Neu oes gan rywun awgrym gwell?
Dw i awydd cysylltu â nhw i holi oes ganddyn nhw enw Cymraeg swyddogol,
ond dw i'n rhyw feddwl falle nad oes; fel dwedes i, prosiect eitha newydd yw
hwn yn ôl pob golwg, a does dim gair o Gymraeg ar eu gwefan www.siprogramme.org.uk na'u logo
na dim. Felly ro'n i am holi eich barn chi ar y mater cyn cysylltu, yn rhannol
rhag ofn mai dim ond fi sy'n meddwl ei fod yn air hyll. Os yw pawb yn gytûn ei
fod yn air gwych, galla i barhau gyda "mewnwelediad" heb bryder. Ond
mae'r pethau dw i'n eu cyfieithu yn bethau eitha elfennol ac mae'n bosib eu bod
ymhlith y pethau cynta i gael eu cyfieithu am y rhaglen, felly dw i ddim am
helpu i sefydlu "Rhaglen Mewnwelediad Strategol" fel enw arnyn nhw os
oes rhai yn eich plith sy o'r farn y byddai rhywbeth arall yn well.
Ymddiheuriadau am anfon neges mor hir, ond gan fod y peth yn cymylu fy
meddwl bob tro bydda i'n teipio'r gair, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw farn ar
y mater!
Osian
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If
you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the
following address:
[log in to unmask]
All communications sent to or from the Council may be subject to recording
and/or monitoring in accordance with relevant legislation
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac
at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych
wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y
cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu
fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************