Print

Print


Helo bawb, gobeithio eich bod yn iawn ar bnawn dydd Gwener,

Dw i'n cyfieithu tipyn o destun ar gyfer "Strategic Insight Programme",
rhaglen gymharol newydd yn ôl pob golwg ym maes addysg uwch. Bwriad y
rhaglen yw anfon pobl ar leoliadau i wahanol sefydliadau er mwyn rhoi
'insight' iddyn nhw o'r modd mae'r sefydliadau hynny'n gweithio. Oes rhywun
yn gwybod rhywbeth amdani?

Mae TermCymru yn cynnig "Rhaglen Mewnwelediad Strategol", ac mae hynny'n
ymddangos ar Google hefyd. Fodd bynnag, ychydig iawn o enghreifftiau sydd
ar y we mewn gwirionedd (os anwybyddwch chi hysbyseb swydd ddiweddar sydd
fel pe bai wedi dyblygu mewn ugeiniau o wefannau gan asiantaethau swyddi ac
ati). A statws 5 sydd i'r teitl ar TermCymru.

Fy hunan dw i ddim yn hoff iawn o'r gair "mewnwelediad". Alla i ddim dweud
yn iawn pam, heblaw ei fod yn swnio fel gair gwneud braidd. Ai dim ond am
ei fod yn ddierth? Beth yw barn pawb arall amdano? Mae'n well gen i
ddefnyddio iaith syml wrth gyfieithu os oes modd o gwbl, er anodded yw
gwneud hynny'n aml iawn...

Dw i'n gweld bod "cipolwg" ar TermCymru am insight mewn cyd-destunau
eraill, a dw i'n teimlo y gallai hynny ffitio -- rhoi cipolwg ar waith
sefydliadau eraill yw bwriad y rhaglen. A fyddai 'Rhaglen Cipolwg
Strategol' yn iawn?? Neu oes gan rywun awgrym gwell?

Dw i awydd cysylltu â nhw i holi oes ganddyn nhw enw Cymraeg swyddogol, ond
dw i'n rhyw feddwl falle nad oes; fel dwedes i, prosiect eitha newydd yw
hwn yn ôl pob golwg, a does dim gair o Gymraeg ar eu gwefan
www.siprogramme.org.uk na'u logo na dim. Felly ro'n i am holi eich barn chi
ar y mater cyn cysylltu, yn rhannol rhag ofn mai dim ond fi sy'n meddwl ei
fod yn air hyll. Os yw pawb yn gytûn ei fod yn air gwych, galla i barhau
gyda "mewnwelediad" heb bryder. Ond mae'r pethau dw i'n eu cyfieithu yn
bethau eitha elfennol ac mae'n bosib eu bod ymhlith y pethau cynta i gael
eu cyfieithu am y rhaglen, felly dw i ddim am helpu i sefydlu "Rhaglen
Mewnwelediad Strategol" fel enw arnyn nhw os oes rhai yn eich plith sy o'r
farn y byddai rhywbeth arall yn well.

Ymddiheuriadau am anfon neges mor hir, ond gan fod y peth yn cymylu fy
meddwl bob tro bydda i'n teipio'r gair, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw farn
ar y mater!

Osian