Diolch Ann. Wn i ddim pwy wnaeth y gweiddiol - datganiad Wanda gefais i, ganddi hi, gyda'r teitl yn ddwyieithog eisoes. Mi roddaf innau Cynt a Chwedyn.

Diolch
Sioned


On 3 Jan 2012, at 10:38, Ann Corkett wrote:

 

 

Fel y gwyddoch, mae’n arddangosfa ddau arlunydd – y cerflunydd[es?] sy’n ymddangos yn y lluniau gyda’i gwaith, a’r ffotograffydd.  ‘Rwy’n rhoi gwersi Cymraeg i’r ffotograffydd, a dyma ei ymateb i fy sylwadau:

 

The translation was copied and pasted from the publicity I was sent by Rhyl Arts Centre :-(( I assumed they would have used pro translators :-((
Too late for all the invites, press releases and posters they've sent out - including the brochures you had in November <image001.gif>
I will amend my blog of course but it's all a bit late for the show itself - I'm annoyed with whoever did the translation but I was never sent proofs before it all went out anyway as its far more Wanda's project than mine by a long way.
I will send the info to Wanda so that she can amend for future shows !
Thanks for raising the issue Ann
Cofion cynnes

 

Mae o erbyn hyn wedi rhoi “Cynt a Chwedyn” ar ei flog, ond wn i ddim beth sy’n digwydd ynghylch yr arddangosfa mewn lleoedd eraill. Rhaid dweud, nad oeddwn i wedi edrych yn ddigon manwl ar y daflen ges i gan Lyfrgell y Rhyl ym mis Tachwedd, ond mae’n debyg y byddai wedi bod yn rhyw hwyr ar gyfer honno hyd yn oed bryd hynny. Byddai’n dda cael newid y teitl mewn lleoedd eraill.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
Sent: 03 January 2012 08:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Before and After

 

Ydych chi'n gwybod beth ddefnyddiwyd yn y diwedd, Ann? Mae gen i ddatganiad artist yma i'w wneud heddiw, hefyd ar gyfer arddangosfa, ac mae'r teitl yn dweud "Cyn ac Wedyn - Before and After" ... tybed ai'r un artist?!

 

Diolch

Sioned

 

 

 

On 1 Jan 2012, at 18:23, Ann Corkett wrote:



 

 

Diolch i chi’ch tri.  Wedi anfon y ddau awgrym ymlaen, ond, yn bersonol, yn ffafrio’r cyd-lythrennu yn “Cynt a Chwedyn”.

 

Cofion,

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 01 January 2012 16:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Before and After

 

Dyna oedd fy nheimlad i, ond dy fod ti wedi'i gyfleu yn well!

Anna

2012/1/1 <[log in to unmask]>

Cynt a Chwedyn yn cael fy mhleidlais i. Efallai ei fod yn 'hen ffasiwn' i rai, ond mae harddwch yr iaith yn disgleirio drwyddo.

Sent from my BlackBerry device on the Rogers Wireless Network


From: anna gruffydd <[log in to unmask]>

Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>

Date: Sun, 1 Jan 2012 14:48:18 +0100

ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>

Subject: Re: Before and After

 

Faswn i'n awgrymu Cynt a Chwedyn, neu Cynt ac Wedyn - maen nhw'n haws eu deud - ac mi faswn yn ffafrio'r cynta am ei fod yn rhywbeth arbennig (fedra i ddim meddwl am ffordd well o'i gyfleu o ar y funud

Anna

2012/1/1 Ann Corkett <[log in to unmask]>

Blwyddyn newydd dda ichi i gyd – gobeithio, er hynny, fod rhywrai o gwmpas yn defnyddio eu cyfrifiaduron heddiw.

 

yn achosion cyn + wedi a cynt + wedyn:

 

HELP!

 

Mae fy nghlust i, a chlust Bruce (pan nad yw’n son am “cynt a chwedyn”) yn dweud “cynt a wedyn”, a dyna sydd gan Peter Wynn Thomas, ond mae Cysill yn cywiro “a wedi/wedyn” i “ac wedi/wedyn”.

 

Ydy hon yn adeg arall pan fydd pobl yn dweud wrthyf fy mod i’n gywir ond yn hynod o hen ffasiwn?  Beth ddylwn i awgrymu, os gwelwch yn dda, fel teitl ar gyfer arddangosfa (sydd yn mynd i fod yn “Cyn ac Wedyn” os na chynigiaf rywbeth arall yn reit sydyn, os nad yw hi’n rhyw hwyr eisoes!)?