Dyma’r cyd-destun
Saesneg: special extract by the Welsh Government (yn son am dynnu
rhai ystadegau o gyfrifiad)
Cymraeg y cwsmer: echdyniad arbennig gan Lywodraeth Cymru
Ann (at y cwsmer): Mae "echdyniad" yn air
gwyddonol, o fyd cemeg. A fyddai "detholiad" yn ffitio? Os na, a
hoffech egluro ychydig, er mwyn imi ofyn barn Bruce?
Cwsmer: Wn i ddim am entymoleg y gair na o ble mae’r
‘ech’ yn dod ond mae’r enghreifftiau rwy’n gallu dod o
hyd iddynt yn cynnwys pethau sy’n golygu ‘tynnu allan’ a dyna
sy yma, ond bod data wedi ei dynnu allan o gronfa ddata yn hytrach nag olew
o’r ddaear neu gemegyn o fwyn. Gair IT ydw i eisiau felly. Dydy detholiad
ddim yn ddrwg ond ei fod yn awgrymu eu bod wedi dethol beth i’w roi ond
fi ddewisodd a nhw a’i tynnodd!
Ydy unrhyw un yn gyfarwydd a’r maes ac yn medru dweud
pa beth a ddefnyddir, ynteu awgrymu rhywbeth (fuasech chi cystal a dweud wrth
ymateb, ai gair a ddefnyddir ynteu awgrym sydd gennych, os gwelwch yn dda.)
Mae echdyniad yn swnio’n annaturiol iawn i mi.
Diolch yn fawr iawn,
Ann