Dyma'r cyd-destun Saesneg: special extract by the Welsh Government (yn son am dynnu rhai ystadegau o gyfrifiad) Cymraeg y cwsmer: echdyniad arbennig gan Lywodraeth Cymru Ann (at y cwsmer): Mae "echdyniad" yn air gwyddonol, o fyd cemeg. A fyddai "detholiad" yn ffitio? Os na, a hoffech egluro ychydig, er mwyn imi ofyn barn Bruce? Cwsmer: Wn i ddim am entymoleg y gair na o ble mae'r 'ech' yn dod ond mae'r enghreifftiau rwy'n gallu dod o hyd iddynt yn cynnwys pethau sy'n golygu 'tynnu allan' a dyna sy yma, ond bod data wedi ei dynnu allan o gronfa ddata yn hytrach nag olew o'r ddaear neu gemegyn o fwyn. Gair IT ydw i eisiau felly. Dydy detholiad ddim yn ddrwg ond ei fod yn awgrymu eu bod wedi dethol beth i'w roi ond fi ddewisodd a nhw a'i tynnodd! Ydy unrhyw un yn gyfarwydd a'r maes ac yn medru dweud pa beth a ddefnyddir, ynteu awgrymu rhywbeth (fuasech chi cystal a dweud wrth ymateb, ai gair a ddefnyddir ynteu awgrym sydd gennych, os gwelwch yn dda.) Mae echdyniad yn swnio'n annaturiol iawn i mi. Diolch yn fawr iawn, Ann