Newydd gael neges arall efo'r atodiad y tro yma. Tasa gen i ddim byd arall i'w wneud mi allai fod yn ddiddorol... ----- Original Message ----- From: Gareth Jones To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, November 30, 2011 12:56 PM Subject: Re: Gwyngalchu arian a Lionbridge Dyna wnaeth i minnau amau hefyd – dim atodiad. From: Geraint Lovgreen Sent: Wednesday, November 30, 2011 12:27 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: Gwyngalchu arian a Lionbridge Diddorol ydi'r blog am y cwmni - mi ges i'r un neges y bore ma a Gwglo'r cwmni a chanfod adroddiad ar Wikipedia oedd yn profi bod y cwmni'n bodoli ac yn un digon parchus, ond gan nad oedd yna ddim atodiad gyda'r neges yn rhoi manylion y gwaith, wnes i ddim byd amdano fo. Geraint ----- Original Message ----- From: Carolyn To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, November 30, 2011 12:03 PM Subject: ATB: Gwyngalchu arian a Lionbridge Mae hynny'n wir Sion - ac er bod fy merch wedi cael gwaith ganddyn nhw - mae'n waith digon llafurus ac os nad ydach chi'n ymuno â'r webinars, mae'ch 'gradd' gyda'r cwmni'n is. ---------------------------------------------------------------------------- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sion Rees Williams Anfonwyd/Sent: 30 Tachwedd 2011 11:59 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Gwyngalchu arian a Lionbridge Mae Lionbridge yn ddigon parchus fel cwmni - dw i wedi bod ar eu llyfrau ers misoedd. Wedi dweud hynny - erioed wedi derbyn ddim gwaith ganddyn nhw, ac unwaith dach chi'n cofrestru gyda nhw mi gewch wahoddiadau lu i ynuno a'u 'webinars' (sydd yn rai mewn Saesneg America) yn dweud mor dda maen nhw'n gweithio a sut mae defnyddio eu pyrth ar gyfer anfon cyfieithiadau yn eu holau. Gan hynny, nid wyf yn dibynnu arnyn nhw am fy nghynhaliaeth. Gwnewch chi fel y mynnoch. Cofion, Siôn Y Bnr/Mr/M Siôn Rees WILLIAMS MA (Celtic Studies), LLB. (Hons.), Cert. TESOL, MCIL. (Siôn o Ewrop)