Print

Print


>Roedd gan Eleri Siôn swynwr reit drawiadol ar y rhaglen o'r Sioe Aeaf
neithiwr!

Swnio fel petai ei bod hi wedi cael gafael yn nipyn o bishyn!

Alla i ddim dweud fy mod i'n fodlon ar y cynigion y tro diwethag chwaith.
'Taswn i'n mynd i mewn i siop i holi, mae'n debyg y buaswn i'n gofyn am "un
o'r hetiau bach 'na o blu a les a'r nesa peth i ddim" neu rywbeth tebyg.

Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 30 November 2011 08:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Fascinator

Ie - ond mae'n annhebygol y caiff yr un o'r ddau eu defnyddio'n  
naturiol ar lawr gwlad.

Rwy'n gwybod y gellir dadlau bod "fascinator" wedi ennill ei blwyf ac  
nad yw pobl yn mynd i ddefnyddio gair Cymraeg o gwbl ond rwy'n meddwl  
bod  "swynwr" yn fwy 'hygyrch' ac mae hynny'n help, siwr o fod.

Roedd gan Eleri Siôn swynwr reit drawiadol ar y rhaglen o'r Sioe Aeaf  
neithiwr!

Hwyl

Siân



On 30 Tach 2011, at 00:47, Ann Corkett wrote:

> Bu trafodaeth ar 18 Mehefin 2008; y prif gynigion oedd "cyfareddwr" a
> "penwisg [gyfareddol]".
>
> Ann
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 30 November 2011 00:14
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Fascinator
>
> Hwn wedi codi ar twitter.
>
> Beth am "swynwr"?  Dwi'n ei licio fe - hawdd i'w ddweud ac mae'n  
> cyfleu
> ystyr y gwreiddiol.
>
> Siân