Dyna wnaeth i mi benderfynu ymateb i’r neges Ann – hynny a’r faith bod
gwaith yn brin ar y pryd mae’n siwr! Yn fy mhrofiad i mae Saesneg rhai o
weithwyr yr asiantaethau cyfieithu mawr yn ddigon tila ar adegau. Serch
hynny, o’n i’n amheus o’r dechrau felly mi es i ati’n ofalus fesul cam.
Y neges soniodd Eleri (Lovgreen) amdani gefais i, ac ar ôl cael y ddogfen
gofynnais am fwy o fanylion. Cefais gyfeiriad ‘Anita’ ac addewid y byddai hanner
y tâl yn cael ei anfon ataf ymlaen llaw. Gofynnais am siec (sterling) ac aros
iddi gyrraedd cyn dechre ar y gwaith.
Ymhen diwrnodau cyrhaeddodd amlen o Wlad Belg gyda thair siec teithio
American Express oedd yn gyfanswm o $1500 – gormod o lawer! Roedd y swm
mawr yma o arian wedi’i anfon gan y cleient mewn camgymeriad yn ôl
‘Anita’!
Gwyddwn yn bendant erbyn hynny mai sgam oedd hwn a chadarnhaodd cyfaill imi
yn y banc fod y sieciau teithio’n rhai ffug. Roedden nhw’n rhai hynod o
soffistigedig ac roedd hyd yn oed y banc yn cael trafferth deud yn iawn nad
oedden nhw’n rhai dilys.
Y bwriad mae’n debyg oedd fy nghael i i arwyddo’r sieciau teithio ffug a’u
cyfnewid am arian parod, cadw’r hyn oedd yn ddyledus i mi, yna anfon y gweddill
yn ôl ar ryw ffurf neu’i gilydd. Byddai’r arian ffug wedi’i gyfnewid yn
arian go iawn felly, a minne’n ddiarwybod yn rhan o’r sgam!
Fel mae’n digwydd, do’n i ddim gwaeth ar ddiwedd y dydd, ond roedd yn
brofiad digon annifyr ac ro’n i am rannu’r profiad – rhag ofn bod ‘na dwpsod
eraill fel fi yn eich plith!
Pob hwyl
Linda
Sent: Tuesday, November 29, 2011 12:01 PM
Subject: Re: ATB: Gwyngalchu Arian
‘Dw i ddim yn sicr bod
safon yr iaith yn brawf sicr, yn anffodus, gan fod nifer o asiantaethau
cyfieithu yn cyflogi staff nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol. Beth
bynnag, mi allen nhw fod yn ohebyddion y Daily
Post e.e., “the minutiae … is”.
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
On Behalf Of anna
gruffydd
Sent: 29 November 2011
11:35
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Gwyngalchu
Arian
Yntydi'n rhyfedd na dydi
pobol sy'n gwneud sgams ddim yn trafferthu'u gwneud eu hunain yn ieithyddol
'barchus' er mwyn i bobol eu coelio? mae'r bobol sy'n sgwennu i ofyn am fanylion
banc er mwyn rhoi hylltod o bres run fath yn
union.
Anna
2011/11/29 Carolyn <[log in to unmask]>
Ges i'r neges wreiddiol
hefyd ac o'n i'n amheus am fod y Saesneg mor giami. Mi benderfynes i bod
rhywbeth yn od amdano fo.
Oddi
wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eleri Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 29 Tachwedd 2011
11:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Gwyngalchu
Arian
Tybed ai dyma'r neges yr oedd Linda'n cyfeirio
ati? Ymatebais iddi, a chael y testun i'w astudio - ac roedd o'n ymwneud
ag addysgu plant yn eu cartref yn UDA. Dechreuais amau'r prosiect, ac
ysgrifennais ati'n dweud nad oeddwn am barhau a'r gwaith.
--- On
Mon, 21/11/11, anita sequeira <[log in to unmask]>
wrote:
From: anita sequeira <[log in to unmask]> Subject: Re: 4200 words
project To: "Eleri Lovgreen" <[log in to unmask]> Date: Monday, 21
November, 2011, 17:33
Attached is the project. Payment shall be in 2x
. First payment of 50% and the balance of 50% on completion or a week
to 2 weeks interval.
I await the total estimates and necessary
details to making the payment.
My client has chosen check payment
this has been method of payment from the past.
Email me
your
Name: Address: City: State: Zip
Code: Phone:
The details above shall be used to forward the
payment to you.
Regards
> From: anita sequeira
<[log in to unmask]"
target=_blank>[log in to unmask]> > Subject: 4200 words
project > To: [log in to unmask]"
target=_blank>[log in to unmask] > Date: Monday, 21
November, 2011, 13:15 > > > I have a project of about
4200 words on home schooling. > I am in Need of a translator Who
Can Deliver Within 2 weeks. > Email me and estimate this process
to Achieve. Let me Know What you > handle
language. > |