Dwi'n credu mai ffrindiau sy'n dod yn ffrindiau yn benodol er mwyn twyllo ydy'r rhain - nid ffrindiau 'go iawn' - hynny yw, maen nhw'n targedu'r dioddefwr. Mae'r Saesneg yn amlwg adleisio 'hate crime' - ond dwi'n cytuno fod angen y 'ffug' yn Gymraeg. Catrin ________________________________ From: Sian Jones <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, 22 November 2011, 13:52 Subject: Re: Mate Crime Dw i ddim yn gweld yr angen am 'ffug' - cyfeillion yn troseddu yn erbyn cyfeillion sydd yma ia? Mae'r ffaith eu bod nhw'n gwneud hyn yn golygu nad ydyn nhw'n ffrindiau da iawn beth bynnag! Falle: Trosedd Cyfaill, Troseddau Cyfeillion, Troseddu rhwng Cyfeillion, Trosedd ar Gyfaill. Pob hwyl, Sian > Date: Tue, 22 Nov 2011 13:46:06 +0000 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Mate Crime > To: [log in to unmask] > > Gadawaf i eraill ateb hyn. Mae'ch cynnig yn swnio'n rhesymol, ond yn fwy > ffurfiol na'r gwreiddiol. > > Gallaf ragweld ymgyrch yn yn dyfodol, "Nid me^t pob me^t" neu rywbeth tebyg. > > Ann > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas > Sent: 22 November 2011 13:30 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Mate Crime > > I ateb fy nghwestiwn fy hun, beth am 'troseddau ffrindiau ffug'? Beth yw'ch > barn chi am hyn? Byddwn yn gwerthfawrogi'ch barn a'ch cynigion. > > Diolch. > > Cofion, > > Meinir