Roeddwn yn bwriadu gofyn am sel eich bendith ond, yn hytrach, dwi wedi penderfynu mynd rhagof beth bynnag. Dwi'n gwbod be ydi ystyr 'go iawn' decadent ond mae bellach wedi magu ystyr arall, anodd ei ddisgrifio a'i gyfleu ond gwyddom i gyd mwy ne lai be mae'n feddwl. Dwi'n meddwl ei fod erbyn hyn ymhlith y geiria hynny - fel Schadenfreude, hiraeth etc nad oes modd eu cyfleu mewn iaith arall. Does dim problema ynganu ynghlwm a defnyddio decadent yn y Gymraeg felly dyna dwi'n mynd i'w wneud. Os gall rhywun gynnig gwell gair o fewn yr hanner awr nesa, croeso, fel arall, decadent a fydd. Anna