Diolch i chi am eich cymorth. Dwi wedi penderfynu, ar ol hir gnoi cil, dilyn yr Eid. y Ffr. a'r Saes. a defnyddio 'Plas'. Nid trigfannau oedden nhw, nag arosfannau, y peth pwysig oedd eu bod fel tai bychain o ran eu saerniaeth. Felly dyna ni. Diolch eto. Anna 2011/10/8 anna gruffydd <[log in to unmask]> > A deud y gwir, ella mai anghofio am y tarddiadau etc fyddai orau - tybed? > a'u galw nhw'n be oedden nhw sef llwyfannau neu blatfformau - dim ond bod > hynny, ella, yn colli'r blas neilltuol a'r syniad eu bod yn gysylltiedig a > drama miragle yr Oesoedd canol. Oedden, roedden nhw'n teithio ond does a > wnelo hynny fawr a'r ffaith mai mansions oedd enwau'r 'golygfeydd', 'floats' > fel mewn carnifal oedd y mansions. Ceir carnifal sydd yn GyrA am 'floats' > ond fasa 'ceir' ddim yn gwneud y tro o gwbl. Wn i mai pethau ar y dwr ydi > cludair ac ysgraff ond tybed a fyddai hynny'n cyfleu'r ystyr yn well? Yn y > bon llwyfannau oedden nhw, wedi'u codi heb fod yn annhebyg i dai bychain, i > gyfleu gwahanol olygfeydd. Wrth gwrs, y dyddia yma golygfeydd ydyn nhw a > dydyn nhw ddim ar lwyfannau ar wahan. Dacia, mae'r mansions ma'n dechrau > mynd drwy mhen i rwan. > > > Anna > > 2011/10/8 martin davies <[log in to unmask]> > >> Roedd y gair Lladin *mansio* yn cyfeirio'n benodol at arhosfan yn ymyl >> heol Rhufeinig - math o dafarn neu debyg i deithwyr. Saesneg (o'r Ffrangeg) >> sy'n defnyddio'r gair = plasty. Dw i'n credu byddai arhosfan yn agosach at >> yr ystyr o dan sylw (roedd y dramau hyn yn symud o gwmpas trefi gan gynnal >> *tableaux* yma ac acw). >> >> ------------------------------ >> Date: Sat, 8 Oct 2011 12:45:19 +0200 >> >> From: [log in to unmask] >> Subject: Re: mansion >> To: [log in to unmask] >> >> mi wyddwn mai dyna oedd tarddiad mansion = plasty, felly dim ond defnydd >> mympwyol braidd o'r gair ydi'r cyd-destun drama, ia? felly dydi trigfannau >> yn Gymraeg yn ddim gwirionach na mansions yn Saes? Diolch >> >> Anna >> >> 2011/10/8 martin davies <[log in to unmask]> >> >> o'r Lladin *mansio, *ffurf ar* manere* 'i aros' >> >> Martin >> >> ------------------------------ >> Date: Sat, 8 Oct 2011 11:27:42 +0200 >> From: [log in to unmask] >> Subject: Re: mansion >> To: [log in to unmask] >> >> >> Ddaru mi feddwl am drigfannau hefyd, am yr un rheswm, ond doeddwn i ddim >> yn siwr. Dwi ddim wedi gweld tarddiad y gair Saes. yn unman, ella mai dyna >> be ydi ei darddiad. >> >> Anna >> >> 2011/10/8 Wyn Hobson <[log in to unmask]> >> >> Meddai Anna Gruffydd: >> >> > diffiniad Encyclopaedia Britannica: Initially, in the 12th century, the >> cycles were presented on a series of >> > decorated platforms known as houses or mansions, following the type of >> layout established in the liturgical >> > drama, with each representing a particular location. >> >> Cyfeiriad sydd yma at y dramâu gwyrth (miracle plays) a fyddai'n cael eu >> perfformio mewn dinasoedd a threfi yn Lloegr ar ddiwrnod un o'r prif Wyliau >> eglwysig yn y cyfnod canoloesol, nes i'r arfer gael ei wahardd yn ystod >> Diwygiad Harri VIII. >> >> Dw i'n cymryd, felly, fod yr enw 'mansions' yn gyfeiriad at Efenglyl Ioan >> 14:2 — "In my Father's house are many mansions" ym Meibl Brenin Iago. Yn y >> Beibl 'Revised Standard', fodd bynnag, y cyfieithiad yw "In my Father's >> house are many rooms". >> >> Ond mae Beibl William Morgan a'r Beibl Cymraeg Newydd ill dau'n >> defnyddio'r cyfieithiad "Yn nhy fy Nhad y mae llawer o drigfannau". >> >> Trigfan/trigfannau amdani, felly? >> >> Wyn >> >> >> >> >