Bore da, Cais ar ran ffrind i weld beth fyddai'r cylch yn ei ddefnyddio i gyfeirio ar 'bulgur wheat' yn y Gymraeg. Mae 'gwenith bulgar' i'w weld yn aml ar y we. Cofion gorau, Huw From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eurwyn Pierce Jones Sent: 05 Gorffennaf 2011 12:38 To: [log in to unmask] Subject: Re: starter pack Ann, Cychwyn = Start / Dechrau = Begin Cychwyn: dim ond os yw'r peth yn mynd i symud yn llythyrennol. Dechrau: dim ond os yw'r peth yn aros yn llonydd. Wele'n chychwyn dair ar ddeg O longau braf ar fore teg ... The next race will start at eleven o' clock ... Bydd y cyfarfod yn dechrau am saith ... To begin at the beginning; it was a dark, moonless night ... Ni ddylid cymysgu rhwng y ddau air; na defnyddio'r un os mai'r llall sydd gywiraf. 'Pecyn Cychwyn(nol)' amdani, felly. Eurwyn. ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 05 July 2011 11:33 To: [log in to unmask] Subject: starter pack Yng nghyd-destun addysg unwaith eto: pecyn dechrau? pecyn cychwynnol? Mae'r ddau gen i mewn gwahanol eirfaoedd. Diolch, Ann