Ond onid y dychryn ei hun ydi'r ddychrynfa waeth be sy'n ei achosi?? Roeddwn i'n gwbod yn syth be oedd o'n ei feddwl. Dwi'n dal i fwrw mhleidlais drosto fo.

Anna

2011/10/3 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Diolch.
Hm! syniad da! Ond yn ôl GPC mae dychrynfa'n golygu "ofn, braw, dychryn' a dychryndod yn golygu rhywbeth tebyg. - sef y braw ei hunan, nid y peth sy'n ei achosi.
Oes gennym ni hawl herwgipio gair fel hyn?

Siân




On 3 Hyd 2011, at 10:40, Matthew Clubb wrote:

Tybed a fyddai'r hen eiriau 'dychryndod' neu 'ddychrynfa' yn gweithio?
'dychrynfa iechyd'  ddim yn air cyffredin efallai, ond ma'n ddigon hawdd ei
ddeall

-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 03 Hydref 2011 06:30
At/To: [log in to unmask]AC.UK
Pwnc/Subject: scare

Bore da!

"Have there been any food related health scares in the last two years?"

Mae GyrA yn rhoi "bygythiad bom" am "bomb scare" ond dwi'm yn siŵr ydi
"bygythiad i iechyd" yn gweithio.

Dwi'n tueddu i gysylltu "health scare" â sylw yn y cyfryngau:
Wikipedia: "Health scare is a campaign to scare the public into avoiding a
food or chemical on the grounds that it might cause them to contract an
illness or have some other negative effect on their health. Many such scares
have been shown to be groundless, but in some cases it may involve very real
threats to public health and safety."

Os felly, dydi "bygythiad i iechyd" ddim yn gweithio.  Beth am rywbeth fel
"ymgyrch i godi braw am effaith rhyw fwydydd ar iechyd"? Braidd yn hir.


Diolch

Siân