Efallai bod angen tamaid bach o bwyll gan fod yna air 'anion' (heb ddidolnod) sef 'ïon mewn hydoddiant wedi'i electroleiddio'
 
> Date: Tue, 25 Oct 2011 15:44:54 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: non-ionising radiation
> To: [log in to unmask]
>
> "anïoneiddiol" efo l ar y diwedd oedd gen i yn hytrach nag "an-ïoneiddio".
>
> Ar batrwm "annymunol" (sef ddim yn ddymunol), "annynol" (sef ddim yn ddynol)
> ayb. ayb.
>
> Geraint
>
> Dwi ddim yn meddwl bod angen y cysylltnod chwaith, mae'r didolnod yn gwneud
> gwaith hwnnw.
>
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, October 25, 2011 3:27 PM
> Subject: Re: non-ionising radiation
>
>
> Siwr dy fod ti'n iawn, Geraint.
>
> Mae GyrA yn rhoi "ïoneiddiol". Fi oedd wedi rhyw feddwl am
> "anharddu" a meddwl y byddai "an-ïoneiddio" yn golygu cael gwared o'r
> ïoneiddio yn hytrach na pheido ag ïoneiddio.
>
> Diolch
>
> Siân
>
> On 25 Hyd 2011, at 15:07, Geraint Lovgreen wrote:
>
> > A chymryd mai ymbelydredd oneiddiol ydi 'ionising radiation', wela'i ddim
> > pam na ellir dweud ymbelydredd anïoneiddiol am 'non- ionising radiation'.
> >
> > Mae'r "an-" yn cyfleu'r gwrthwyneb i mi, yn yr un modd â'r "non-" yn y
> > Saesneg.
> >
> > Geraint
> >
> > ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
> > <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, October 25, 2011 2:39 PM
> > Subject: non-ionising radiation
> >
> >
> > Rwy wedi dod o hyd i "ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio" ac "ymbelydredd
> > anïoneiddiol" ar y we.
> > Dim llawer o enghreifftiau o'r naill na'r llall.
> > Oes 'na un yn well na'r llall? Mae gan "anïoneiddiol" y fantais o fod
> > yn un gair ond ydi e'n cyfleu'r ystyr yn iawn?
> > Yn ôl GPC mae "an-" yn cyfleu'r gwrthwyneb - e.e. anharddu. Ond nid
> > dyna'r ystyr sydd yma.
> >
> > Cafodd y term ei godi o'r blaen mewn trafodaeth ar "Oxidation of a fuel
> > evolving heat, particulates, gases and non-io nizing radiation" (mae'r
> > gair wedi'i rannu'n "non-io nizing")
> >
> > Diolch
> >
> > Siân