Pwy gebyst oedd y cono clyfar feddyliodd am gynnig cawrfil??!!! Chlywais i rioed mo'r gair.
Anna
Mae gan y BBC eiriadur newydd ar lein.Dyw e ddim yn berffaith o bell ffordd e.e. mae'n cynnig "dethol" cyn "dewis" am "choose" a "cawrfil" cyn "eliffant" am "elephant"!Ond mae yn cynnig rhedeg berfau.Yr unig beth - hyd y gwela i - o'r holl ffurfiau berfol a'r amrywiadau De/Gogledd, ffurfiol/anffurfiol, dyw e ddim yn cynnwys yr amhersonol! Falle mod i'n rong a'i fod yn cuddio yno yn rhywle!SiânOn 25 Hyd 2011, at 09:52, Sioned Graham-Cameron wrote:Diolch Judith - mi 'drycha i ar hwnna. Dydi Cysgair/Cysgliad ddim wedi ei osod ar y cyfrifiadur yma (Mac) gan nad oedd yn gweithio'n rhy dda tro diwetha roddais gynnig arno, ond dwi'n gweld bod fersiwn newydd o Cysgliad i'r Mac ar gael.Dwi newydd archebu copi o lyfr D Geraint Lewis (a'i lyfr arddodiaid hefyd) felly dwi'n falch mod i wedi gofyn y cwestiwn!DiolchOn 25 Oct 2011, at 09:48, Judith Kaufmann wrote:Mae’r botwm glas G sy’n rhan o’r pecyn Cysgliad yn handi hefyd. Fedrwch chi amlygu’r gair, pwyso’r G a dewis ‘rhedeg berf’.
Judith
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sioned Graham-Cameron
Anfonwyd/Sent: 24 October 2011 14:52
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: dewiswyd / dewisiwyd: Y Llyfr Berfau
Diolch am hynna, Ann - gwybodaeth ddefnyddiol iawn. Mae Peter Wynn Thomas gen i (er nad ydw i bob amser yn hollol siwr lle i edrych ynddo fo!)
Sioned
On 24 Oct 2011, at 14:49, Ann Corkett wrote:
Os edrychwch ar wefan Gwales (y Cyngor Llyfrau) mae ar gael yn newydd am £8.99
Mae gen i gopi sbar, ond gwell gen i ei gadw i ddangos i ddysgwyr. Hefyd, mae gen i drefniant lle gallaf anfon at yr holl werthwyr llyfrau daeth i’r Ffair ym mis Medi er mwyn canfon llyfrau mae ar bobl eu heisiau. Gyda llaw, mi ofynodd un cyfieithydd imi wneud hyn yn achos Gramadeg Peter Wynn Thomas, ac mi ges i ddau gynnig, felly mi wn lle mae un sbar ar gael os oes eisiau un.
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 24 October 2011 14:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: dewiswyd / dewisiwyd
Rargian fawr!!!! £7.95 oedd f'un i - dim ond cyfrol clawr papur hanner modfedd o drwch ydi hi, nid llawysgrif orueredig gan fynaich Ystrad Fflur yn yr Oesoedd Canol!!!
Anna2011/10/24 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
Diolch Anna - mi ffoniai'r siop lyfrau yn y Blaenau i weld os yw ar gael. (Newydd edrych ar Amazon ac mae copi ail law i'w gael am £109.92 - felly gofalwch am eich copi chi!)
Sioned
On 24 Oct 2011, at 14:10, anna gruffydd wrote:
Mae Llyfr Berfau D. Geraint Lewis yn handi dros ben - mi fydda i'n gorfod sbio arno fo'n amlach nag y carwn gyfadde. Ac mae'n ddifyr gweld berfau sydd mor anhylaw fel bod rhywun yn meddwl tybed os na rywun erioed wedi'u deud nhw - chwyddheych er enghraifft!
Anna2011/10/24 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Dewiswyd. Dewis + wyd. Cario + wyd = cariwyd
Sent from my BlackBerry® wireless device
-----Original Message-----
From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Mon, 24 Oct 2011 13:57:23
To: <[log in to unmask]>
Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Subject: dewiswyd / dewisiwyd
Help! Dwi'n mynd yn wirion yn ceisio penderfynu pa un sy'n gywir (teimlo'n fwy twp nag arfer heddiw)
Diolch!
Sioned
__________ Information from ESET NOD32 Antivirus, version of virus signature database 6571 (20111024) __________
The message was checked by ESET NOD32 Antivirus.
http://www.eset.com