plorynnog ydi'r cynnig gorau gen i. ----- Original Message ----- From: Melanie Davies To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, October 19, 2011 11:42 AM Subject: Re: flat or pimpled soles Efallai, ond byddwn i ddim yn disgwyl cael lympiau mawr mewn sawdl! O ran GPC, mae talpiog yn dweud: Lympiog, priddellog; plorynnog: lumpy, cloddy, pimply. Falle fyddai plorynnog yn iawn felly? From: CATRIN ALUN Sent: Wednesday, October 19, 2011 11:37 AM To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB: ATB: flat or pimpled soles Talpiog yn rhy 'fawr' faswn i'n feddwl - lumpy yn hytrach na bumpy!!! ------------------------------------------------------------------------------ From: Melanie Davies <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, 19 October, 2011 11:35:27 Subject: Re: ATB: ATB: flat or pimpled soles Dwi newydd edrych yn GPC ac mae talpiog yn cyfleu’r ystyr o bosibl. Melanie From: Carolyn Sent: Wednesday, October 19, 2011 11:32 AM To: [log in to unmask] Subject: ATB: ATB: flat or pimpled soles Dw i'n meddwl bod gan rai sgidiau lled-fflat rychau arnyn nhw sy'n gwneud difrod i'r wyneb artiffisial. Anodd! ------------------------------------------------------------------------------ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sioned Graham-Cameron Anfonwyd/Sent: 19 Hydref 2011 11:29 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: ATB: flat or pimpled soles Edrychais inna 'dimpled' i fyny hefyd, er bod dimples yn mynd y ffordd arall i pimples! Ond doeddwn i roed wedi gweld y gair panylog o'r blaen 'chwaith ac yn meddwl na fyddai pobl yn ei ddeall. Tybed os oes modd osgoi'r peth a setlo am y gwadnau fflat neu led-fflat! On 19 Oct 2011, at 11:25, Carolyn wrote: Mae'n anffodus bod y gair am 'dimpled' (panylog) mor anghyfarwydd - fe fyddai hwnnw'n nes ati ond dw i erioed wedi clywed y gair. ------------------------------------------------------------------------------ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd Anfonwyd/Sent: 19 Hydref 2011 11:24 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: flat or pimpled soles Gwadna croen gwydd? (sori, dwi'n gwamalu rwan!) Anna 2011/10/19 CATRIN ALUN <[log in to unmask]> Mi wnes i feddwl am hynny hefyd - ond mae swigod i mi'n awgrymu bod aer ynddyn nhw. Catrin ------------------------------------------------------------------------------ From: anna gruffydd <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, 19 October, 2011 11:19:08 Subject: Re: flat or pimpled soles Oes na unrhyw bosibiliada yn 'swigod' tybed? Rhywbeth fel gwadnau swigod - ydi hynny'n cyfleu be ydyn nhw? Anna 2011/10/19 Sian Roberts <[log in to unmask]> Wnes i feddwl am hynna - ond mae ploryn, i mi, yn swnio'n fwy gwasgaredig a llidiog a budr na phimpl. Ond mae "twmpath" yn swnio'n fwy o beth. Ond dim gwell awgrym chwaith Siân On 19 Hyd 2011, at 11:00, CATRIN ALUN wrote: plorog ? ------------------------------------------------------------------------------ From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, 19 October, 2011 10:11:31 Subject: flat or pimpled soles Bore da Buaswn yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth efo 'pimpled'. Yng nghyd-destun cae chwarae pob tywydd, i osgoi niwed i wyneb y cae, rhaid i esgidiau fod â "flat or pimpled soles". Diolch yn fawr am unrhyw awgrym Sioned