Dwi'n meddwl mai lympiau crynion heb fod yn codi rhyw lawer o'r gwadnau ydyn nhw - mi fedra i weld y petha yn fy meddwl, ond fedra i ddim meddwl am air Saesneg arall sy'n eu disgrifio chwaith!


On 19 Oct 2011, at 11:21, CATRIN ALUN wrote:

Mi wnes i feddwl am hynny hefyd - ond mae swigod i mi'n awgrymu bod aer ynddyn nhw.

Catrin


From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 19 October, 2011 11:19:08
Subject: Re: flat or pimpled soles

Oes na unrhyw bosibiliada yn 'swigod' tybed? Rhywbeth fel gwadnau swigod - ydi hynny'n cyfleu be ydyn nhw?

Anna

2011/10/19 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Wnes i feddwl am hynna - ond mae ploryn, i mi, yn swnio'n fwy gwasgaredig a llidiog a budr na phimpl.  Ond mae "twmpath" yn swnio'n fwy o beth.

Ond dim gwell awgrym chwaith

Siān


On 19 Hyd 2011, at 11:00, CATRIN ALUN wrote:

plorog ?


From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 19 October, 2011 10:11:31
Subject: flat or pimpled soles

Bore da

Buaswn yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth efo 'pimpled'.

Yng nghyd-destun cae chwarae pob tywydd, i osgoi niwed i wyneb y cae, rhaid i esgidiau fod ā "flat or pimpled soles".

Diolch yn fawr am unrhyw awgrym

Sioned