Print

Print


Dwi'n meddwl mai lympiau crynion heb fod yn codi rhyw lawer o'r gwadnau ydyn nhw - mi fedra i weld y petha yn fy meddwl, ond fedra i ddim meddwl am air Saesneg arall sy'n eu disgrifio chwaith!


On 19 Oct 2011, at 11:21, CATRIN ALUN wrote:

> Mi wnes i feddwl am hynny hefyd - ond mae swigod i mi'n awgrymu bod aer ynddyn nhw.
> 
> Catrin
> 
> From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> Sent: Wednesday, 19 October, 2011 11:19:08
> Subject: Re: flat or pimpled soles
> 
> Oes na unrhyw bosibiliada yn 'swigod' tybed? Rhywbeth fel gwadnau swigod - ydi hynny'n cyfleu be ydyn nhw?
> 
> Anna
> 
> 2011/10/19 Sian Roberts <[log in to unmask]>
> Wnes i feddwl am hynna - ond mae ploryn, i mi, yn swnio'n fwy gwasgaredig a llidiog a budr na phimpl.  Ond mae "twmpath" yn swnio'n fwy o beth.
> 
> Ond dim gwell awgrym chwaith
> 
> Siān
> 
> 
> On 19 Hyd 2011, at 11:00, CATRIN ALUN wrote:
> 
>> plorog ?
>> 
>> From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
>> To: [log in to unmask]
>> Sent: Wednesday, 19 October, 2011 10:11:31
>> Subject: flat or pimpled soles
>> 
>> Bore da
>> 
>> Buaswn yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth efo 'pimpled'.
>> 
>> Yng nghyd-destun cae chwarae pob tywydd, i osgoi niwed i wyneb y cae, rhaid i esgidiau fod ā "flat or pimpled soles".
>> 
>> Diolch yn fawr am unrhyw awgrym
>> 
>> Sioned