Diolch i bawb am y cynigion, ond methais ddarbwyllo Bruce i newid o “Tirlun Rhyddhaol”. ‘Rwy’n meddwl, er nad ydw i’n siwr fy mod i’n rhoi’r peth yn y geiriau y byddai fo wedi’u dewis, ei fod yn teimlo bod y rhan fwyaf yn cyfleu “Liberated” yn hytrach na “Liberating”. Beth bynnag, ‘rwyf wedi anfon “Tirlun Rhyddhaol” – ac efallai bydd modd defnyddio rhai o’r syniadau a gyfrannwyd ar gyfer arddangosfa yn y dyfodol!
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 14 October 2011 08:56
Teitl ar gyfer arddangosfa o ffotograffau. Dyma nodyn yr arlunydd:
As in, the landscape liberates me, but also as in I am trying not to confine the notion of landscape photography to stereotype !
Bias ? Towards me being liberated by wild places, and being liberated by the experience.
‘Roeddwn i’n gobeithio imi lwyddo i fod yn amwys trwy gynnig “Rhyddid y Tirlun”, ond dywed Bruce fod ystyr hwnnw, os rhywbeth, yn rhoi mwy o bwyslais ar ryddhau’r tirlun, yn lle’r ffotograffydd. Mae o’n cynnig rhywbeth fel “Tirlun Rhyddhaol”, nad yw’n ddigon gafaelgar gen i. Wrth feddwl, efallai bod gwrthdrawiad yma rhwng “tirlun” a “tirwedd” hefyd?
Mae gweddill y gwaith (gwahoddiad) wedi’i gyfieithu, ac yn gorfod mynd erbyn diwedd y bore, fan bellaf; ond mi fydda i’n mynd allan ar ol brecwast tan tua deuddeg. A all rhyw gymwynaswr/wraig] gynnig ateb gwell erbyn hynny??
Llawer o ddiolch,
Ann