Ond mae sain yr  'e' yn hir i 'nghlust i - nid yn 'e' fel yn eliffant ond 'e' fel yn 'hen'. Taswn i'n gweld ebost am y tro cynta, faswn i'n dweud yr 'e' fel yn 'eliffant'. Dw i ddim yn meddwl bod y ddadl yn glir naill ffordd neu'r llall. Dw i'n tueddu i ddilyn beth bynnag sydd yn y Saesneg mewn dogfen - os ydyn nhw'n rhoi e-mail, dw i'n rhoi e-bost ac os ydyn nhw'n rhoi email, dw i'n rhoi ebost.

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 13 Hydref 2011 12:03
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: to

 

Dwi ddim yn meddwl bod y gymhariaeth yn ddilys - cyd-FYND ydi'r pwyslais ond does neb yn dweud e-BOST. Mae'r acen ar y goben - felly ebost.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Rhian Huws

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Wednesday, October 12, 2011 10:05 PM

Subject: Re: to

 

Er gwybodaeth, mae Term Cymru yn nodi ‘e-bost’ – statws 1. Gan fod honno’n gronfa wedi’i safoni dyna dw i’n dueddol o ddefnyddio. Dwi’n teimlo bod y cysylltnod yn ei gwneud yn glir lle ma’r rhaniad rhwng dwy elfen y gair ac y dylid rhoi yr un pwyslais ar y ddwy elfen (fel gyda ‘cyd-fynd’ ar enghraifft’). Os yw’n un gair onid oes modd cymryd mai ar yr ‘eb’ mae’r pwyslais?

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Jones
Sent: 12 October 2011 21:14
To: [log in to unmask]
Subject: Re: to

 

O'r hyn wela i, mae 'e-mail' yn Saesneg yn dechrau colli ei blwy i 'email' erbyn hyn. Onid mater o symleiddio iaith a sgwennu pethau'n fyrrach ydy dechrau defnyddio email yn lle e-mail, neu ebost yn lle 'e-bost'? - rhywbeth sy'n digwydd fwyfwy mewn iaith erbyn hyn. 

 

Sian

 

 

 

 


Date: Wed, 12 Oct 2011 20:55:49 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: to
To: [log in to unmask]

Fel mae Carolyn yn nodi, mae cysylltnod yn awgrymu mai ar y sillaf olaf mae'r acen. Pwy ddaru "sortio" y busnes e-bost beth bynnag? Ebost dwi'n sgwennu bob tro.

Sent from my iPad


On 12 Hyd 2011, at 19:42, CAROLYN IORWERTH <[log in to unmask]> wrote:

Mae'n dibynnu sut mae rhywun yn dweud y peth tydi a hefyd a oes angen cadw'r elfen 'e' am electronig ar wahan i ryw raddau. Mae'r ynganiad yn od. Dw i'n tueddu i roi'r un pwyslais ar yr e ac ar y bost. Byddai cysylltnod yn awgrymu mai ar y sillaf olaf mae'r acen a pheidio yn awgrymu bod y pwyslais ar yr 'e' a 'bost'n yn cael ei ddweud fel petai'n odli efo 'cost' fel mae'n cael ei ddweud yn y de, ac nid efo 'o' hir.

Carolyn

--- On Wed, 12/10/11, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:


From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
Subject: Re: to
To: [log in to unmask]
Date: Wednesday, 12 October, 2011, 19:21

O Geraint, on i'n meddwl bod y busnas e-bost wedi'i sortio - dwi di bod yn cywiro pob dim oedd gen i ar y cof yn e-bost - pam wyt ti'n deud y dylia fo fod yn ebost?

Anna

2011/10/12 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Dwi'n tueddu i feddwl bod orgraff yr iaith yn galw am " ebost" yn hytrach nag "e-bost".

Sent from my iPad


On 12 Hyd 2011, at 14:08, Gwen Rice <[log in to unmask]> wrote:

Diolch i bawb sydd wedi ymateb.  Rhywbeth tebyg i'r hyn y mae Anna yn ei grybwyll oedd 'da fi mewn golwg, er fy mod yn gwybod y byddwn i'n bendant yn rhoi "anfonwch e-bost at Jones@caerdydd..." etc gydag enw unigolyn yno'n amlwg.  Meddwl efallai y rhoddaf "i'r cyfeiriad xxx" am y tro i geisio osgoi'r broblem, yn ôl awgrym Huw.  Bydd yn gywir ac yn dderbyniol a gallwn drafod ymhellach os bydd gan rywun farn bendant.

O ran awgrym Rhian, diolch - yn anffodus alla i ddim o'i roi yma - mae'n dweud bod "pethau i'w hanfon" etc i / at yn hytrach na gorchymyn - h.y. yn esbonio'r drefn, fel petai.

Diolch eto, gyfeillion.

Gwen



-----Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> wrote: -----

To: [log in to unmask]
From: Rhian Huws
Sent by: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
Date: 10/12/2011 02:02PM
Subject: Re: to

Mae ‘e-bostiwch’ yn handi weithiau os am osgoi defnyddio ‘i’ neu ‘at’.

 

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 12 October 2011 14:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: to

 

Tybed a ellid deud mai cyfeiriada ydyn nhw i gyd er bod rhai'n digwydd dechra ag enw rhywun? Felly 'i'? Dwn i ddim, jyst gofyn.

Anna

2011/10/12 Gwen Rice <[log in to unmask]>

Annwyl Gyfeillion

 

O ran gwahaniaethu rhwng "i" ac "at" ar ôl geiriau megis "anfon", "e-bostio" ac ati, ai'r argymhelliad yw cadw'n syml at "i" i sefydliadau etc ac "at" ar gyfer pobl hyd yn oed gyda chyfeiriadau e-bost?

 

Y cyd-destun sydd gen i yw "send" ac "e-mail forms to ...", wedyn cyfeiriadau e-bost.  Mae rhai yn iawn - byddwn yn rhoi "anfon e-bost at John.Jones@hotmail...", neu "i enquiries@hotmail" etc, ond mae gen i hefyd gyfeiriadau fel "academicmanager@...", "studentrepresentatives@" etc (h.y teitlau unigolion).  A ddylid gwahaniaethu'n glir ynteu a yw cysondeb yn ffactor mewn amgylchiadau o'r fath?

 

Diolch am unrhyw gyngor.

 

Cofion

 

Gwen