Print

Print


Yn dilyn patrwm y Saesneg hefyd (sut bynnag mae dyn yn teimlo am hynny!).  Rwy'n gweld "mail me" ac "e-mail me" yn eithaf aml, y ddau yn ystyr "e-bostio".  Fyddwn i ddim yn dehongli "mail me" fel "postiwch lythyr ataf i" etc.
Diddorol iawn, a diolch eto.
Gwen
 
 


-----Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> wrote: -----
To: [log in to unmask]
From: David Bullock <[log in to unmask]>
Sent by: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: 10/12/2011 02:28PM
Subject: ATB/RE: to

Eto i gyd, fe fyddai ‘tecstia fi’ neu ‘atgoffa fi’ yn awgrymu bod ‘e-bostia fi’ yn ddigon synhwyrol hefyd, am wn i?

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Sent: 12 Hydref 2011 14:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: to

 

Dwi’n cytuno, Carolyn.  Fyddwn i byth yn dweud fy mod i wedi ‘postio’ rhywun – wel, oni bai ’mod i wedi’i stwffio i mewn i focs post.  Felly fyddwn i ddim yn dweud ’mod i wedi ‘e-bostio’ rhywun, chwaith.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 12 October 2011 14:08
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: to

 

Dw i ddim yn rhy hoff o 'e-bostiwch' ac enw rhywun/lle yn dilyn achos mae'n swnio fel tasen nhw'n mynd i gael eu hebostio - ond ella mai fi sy'n od!

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws
Anfonwyd/Sent: 12 Hydref 2011 14:02
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: to

 

Mae ‘e-bostiwch’ yn handi weithiau os am osgoi defnyddio ‘i’ neu ‘at’.

 

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 12 October 2011 14:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: to

 

Tybed a ellid deud mai cyfeiriada ydyn nhw i gyd er bod rhai'n digwydd dechra ag enw rhywun? Felly 'i'? Dwn i ddim, jyst gofyn.

Anna

2011/10/12 Gwen Rice <[log in to unmask]>

Annwyl Gyfeillion

 

O ran gwahaniaethu rhwng "i" ac "at" ar ôl geiriau megis "anfon", "e-bostio" ac ati, ai'r argymhelliad yw cadw'n syml at "i" i sefydliadau etc ac "at" ar gyfer pobl hyd yn oed gyda chyfeiriadau e-bost?

 

Y cyd-destun sydd gen i yw "send" ac "e-mail forms to ...", wedyn cyfeiriadau e-bost.  Mae rhai yn iawn - byddwn yn rhoi "anfon e-bost at John.Jones@hotmail...", neu "i enquiries@hotmail" etc, ond mae gen i hefyd gyfeiriadau fel "academicmanager@...", "studentrepresentatives@" etc (h.y teitlau unigolion).  A ddylid gwahaniaethu'n glir ynteu a yw cysondeb yn ffactor mewn amgylchiadau o'r fath?

 

Diolch am unrhyw gyngor.

 

Cofion

 

Gwen

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.1831 / Virus Database: 2090/4547 - Release Date: 10/11/11