Dwi'n cytuno, Carolyn. Fyddwn i byth yn dweud fy mod i wedi 'postio' rhywun - wel, oni bai 'mod i wedi'i stwffio i mewn i focs post. Felly fyddwn i ddim yn dweud 'mod i wedi 'e-bostio' rhywun, chwaith. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Sent: 12 October 2011 14:08 To: [log in to unmask] Subject: ATB: to Dw i ddim yn rhy hoff o 'e-bostiwch' ac enw rhywun/lle yn dilyn achos mae'n swnio fel tasen nhw'n mynd i gael eu hebostio - ond ella mai fi sy'n od! Carolyn ________________________________ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws Anfonwyd/Sent: 12 Hydref 2011 14:02 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: to Mae 'e-bostiwch' yn handi weithiau os am osgoi defnyddio 'i' neu 'at'. Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 12 October 2011 14:00 To: [log in to unmask] Subject: Re: to Tybed a ellid deud mai cyfeiriada ydyn nhw i gyd er bod rhai'n digwydd dechra ag enw rhywun? Felly 'i'? Dwn i ddim, jyst gofyn. Anna 2011/10/12 Gwen Rice <[log in to unmask]> Annwyl Gyfeillion O ran gwahaniaethu rhwng "i" ac "at" ar ôl geiriau megis "anfon", "e-bostio" ac ati, ai'r argymhelliad yw cadw'n syml at "i" i sefydliadau etc ac "at" ar gyfer pobl hyd yn oed gyda chyfeiriadau e-bost? Y cyd-destun sydd gen i yw "send" ac "e-mail forms to ...", wedyn cyfeiriadau e-bost. Mae rhai yn iawn - byddwn yn rhoi "anfon e-bost at John.Jones@hotmail...", neu "i enquiries@hotmail" etc, ond mae gen i hefyd gyfeiriadau fel "academicmanager@...", "studentrepresentatives@" etc (h.y teitlau unigolion). A ddylid gwahaniaethu'n glir ynteu a yw cysondeb yn ffactor mewn amgylchiadau o'r fath? Diolch am unrhyw gyngor. Cofion Gwen