Efallai ond mae braidd yn hir ac fel rheol does dim llawer o le ar gyfer y pethe 'ma.

Bore 'ma ges i rywbeth fel:  Please e-mail Tomos Caradog at [log in to unmask]
Wnes i osgoi defnyddio'r "at"

Gyda llaw, rwy'n cofio Hedley Gibbard yn dweud nad oedd "canlynol" yn gywir am "following" mewn rhaid cyd-destunau ond dw i ddim yn cofio'n iawn beth oedd hynny. Roedd e'n argymell "a ganlyn".  Oes 'na reol?

Mae GyrA yn rhoi:
please note the following - sylwer ar y canlynol
the following pages - y tudalennau a ganlyn

Diolch

Siân


On 12 Hyd 2011, at 13:09, Huw Tegid wrote:

Tybed a fyddai defnyddio “ anfonwch neges e-bost i’r cyfeiriad canlynol: ” yn un ffordd o ddatrys y broblem?
 
Cofion gorau,
 
Huw
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwen Rice
Sent: 12 Hydref 2011 12:55
To: [log in to unmask]
Subject: to
 
Annwyl Gyfeillion
 
O ran gwahaniaethu rhwng "i" ac "at" ar ôl geiriau megis "anfon", "e-bostio" ac ati, ai'r argymhelliad yw cadw'n syml at "i" i sefydliadau etc ac "at" ar gyfer pobl hyd yn oed gyda chyfeiriadau e-bost?
 
Y cyd-destun sydd gen i yw "send" ac "e-mail forms to ...", wedyn cyfeiriadau e-bost.  Mae rhai yn iawn - byddwn yn rhoi "anfon e-bost at John.Jones@hotmail...", neu "i enquiries@hotmail" etc, ond mae gen i hefyd gyfeiriadau fel "academicmanager@...", "studentrepresentatives@" etc (h.y teitlau unigolion).  A ddylid gwahaniaethu'n glir ynteu a yw cysondeb yn ffactor mewn amgylchiadau o'r fath?
 
Diolch am unrhyw gyngor.
 
Cofion
 
Gwen