Efallai ond mae braidd yn hir ac fel rheol does dim llawer o le ar gyfer y pethe 'ma. Bore 'ma ges i rywbeth fel: Please e-mail Tomos Caradog at [log in to unmask] Wnes i osgoi defnyddio'r "at" Gyda llaw, rwy'n cofio Hedley Gibbard yn dweud nad oedd "canlynol" yn gywir am "following" mewn rhaid cyd-destunau ond dw i ddim yn cofio'n iawn beth oedd hynny. Roedd e'n argymell "a ganlyn". Oes 'na reol? Mae GyrA yn rhoi: please note the following - sylwer ar y canlynol the following pages - y tudalennau a ganlyn Diolch Siân On 12 Hyd 2011, at 13:09, Huw Tegid wrote: > Tybed a fyddai defnyddio “ anfonwch neges e-bost i’r cyfeiriad > canlynol: ” yn un ffordd o ddatrys y broblem? > > Cofion gorau, > > Huw > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf > Of Gwen Rice > Sent: 12 Hydref 2011 12:55 > To: [log in to unmask] > Subject: to > > Annwyl Gyfeillion > > O ran gwahaniaethu rhwng "i" ac "at" ar ôl geiriau megis "anfon", > "e-bostio" ac ati, ai'r argymhelliad yw cadw'n syml at "i" i > sefydliadau etc ac "at" ar gyfer pobl hyd yn oed gyda chyfeiriadau > e-bost? > > Y cyd-destun sydd gen i yw "send" ac "e-mail forms to ...", wedyn > cyfeiriadau e-bost. Mae rhai yn iawn - byddwn yn rhoi "anfon e- > bost at John.Jones@hotmail...", neu "i enquiries@hotmail" etc, ond > mae gen i hefyd gyfeiriadau fel "academicmanager@...", > "studentrepresentatives@" etc (h.y teitlau unigolion). A ddylid > gwahaniaethu'n glir ynteu a yw cysondeb yn ffactor mewn > amgylchiadau o'r fath? > > Diolch am unrhyw gyngor. > > Cofion > > Gwen