Print

Print


Fel un nad yw’n gyfieithydd ond sy’n gweithio mewn maes cyfagos mae’n ymddangos imi:

1. fel unigolyn mae hawl gan bob un i ddefnyddio unrhyw ffurf i olygu unrhyw ystyr

2. fel cyfieithwyr proffesiynol, byddai’n gymwynas fawr i’r Gymraeg pe byddai modd cyrraedd consenws ar orgraff ffurfiau newydd, nid er mwyn darganfod pwy sydd fwyaf cywir neu fwyaf gwybodus ond er mwyn cynorthwyo darllenwyr i ddeall y Gymraeg.

(Mae yma ryw gysgod gwan o’r hyn a gyflawnwyd gan William Morgan/John Davies Mallwyd wrth gwrs, ynghyd â rhybudd o’r hyn a allai fod wedi digwydd oni bai amdanynt.)

3. Yn yr un ffordd ag yr ydych chi’n ‘gyfieithwyr’ proffesiynol, y mae grŵp arall o ‘eiriadurwyr’ proffesiynol yn gweithio ar Eiriadur Prifysgol Cymru. Er mai ‘disgrifio’r’ hyn sy’n digwydd yw eu gwaith hwy, yn y diwedd maen nhw’n gorfod penderfynu ar ffordd o gyflwyno’r peth mewn print.

Paham na ellid dilyn, fel egwyddor, arweiniad y Geiriadur o leiaf yn y cyweiriau safonol/ffurfiol? Drwy hynny o leiaf byddai darllenydd yn gallu dilyn llwybr cyson i ddod o hyd i ystyr.


 

Date: Thu, 13 Oct 2011 14:44:06 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: to
To: [log in to unmask]

Cytuno.
 
A dydi'r acen ddim ar yr e yn y geiriau hynny, felly maen nhw'n ymddwyn yn wahanol i "ebost".
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Matthew Clubb
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, October 13, 2011 2:22 PM
Subject: ATB: to

Efallai mod i'n anghywir, ond rwy'n meddwl pawb yn rhoi rhyw bwyslais ar yr 'e' mewn geiriau fel e-ddysgu, e-fasnach, e-gyfeiriad, e-lywodraeth, ac yn y blaen.


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Carolyn
Anfonwyd/Sent: 13 Hydref 2011 14:08
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB: to

Dyna'r amheuaeth sydd gen i hefyd Gorwel. Er mod i'n cytuno nad oes gwir angen y cysylltnod o ran yr acen - mae arwyddocâd yr 'e' o bosib yn cyfiawnhau hynny. Mae 'na 'e-ddysgu' er enghraifft - byddai rhywun yn siwr o feddwl mai camdeipio 'addysgu' oedd 'eddysgu'????

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gorwel Roberts
Anfonwyd/Sent: 13 Hydref 2011 14:06
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: to

 

Mae'r ddadl ynglŷn â'r acennu'n argyhoeddi ond a yw geiriau fel

"e-lywodraeth" (a'r e-bethau eraill) yn gallu bod yn ddryslyd heb y cysylltnod?  

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys Jones
Sent: 13 October 2011 13:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: to

 

Mae rhaid i mi gytuno gyda Geraint.

 

Mae 'email' yn ennill ei blwy yn Saesneg am y rheswm, am wn i, bod y cyfrwng yn fwyfwy cyfarwydd i bawb, ac nad oes angen y cysylltnod i wahaniaethu â phost confensiynol cymaint heddiw.

Yn hynny o beth, i mi, mae blas hen ffasiwn (diweddar iawn!) ar 'e-bost' hefyd.

 

Gair diacen ydi ebost i nghlust a dwi heb glywed neb yn dweud "e-BÔST" mewn brawddeg ers sbel go lew e.e. dydi "Cyfeiriad e-bost" (acennog) ddim cyn rwydded ar dafod nac ydi "cyfeiriad ebost" (diacen)

 

Ond os di'r Cynulliad yn dweud, wel . . .

 

O