Diolch yn fawr Bethan. Dwi’n eithaf hoffi ‘hynt’.

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Bethan Garbutt
Sent: 28 September 2011 18:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: destination

 

'Da ni yn Gyrfa Cymru yn defnyddio 'Hynt Myfyrwyr' am 'Student Destinaton/s'. Mi fydd y ffigurau blynyddol sy'n cal eu cyhoeddi gan brifysgolion yn cael eu hadnabod felly.

Bethan Garbutt

 


On 28 Sep 2011, at 18:05, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

Ella mai meddwl be yn union mae'n ei olygu ydi'r ffordd - y swydd gyntaf yn yr arfaeth? y swydd gyntaf yn y dyhead? dwn i ddim - ond ddylian ni drio osgoi'r ych a fis decini!

2011/9/28 Rhian Huws <[log in to unmask]>

P’nawn da

 

‘First employment destination ‘ – hynny yw y lle y bydd graddedigion yn cael eu swydd gyntaf.

 

Yr unig beth perthnasol welai ar Term Cymru ydi ‘Destination of Leavers from Higher Education’ – Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch.

 

Ydi ‘cyrchfan cyflogaeth gyntaf’ yn rhy ychafi?! Dwi’n rhyw amau ei fod o....Yn falch o unrhyw awgrymiadau.

 

Rhian