Dw i ddim yn meddwl bod nod yn addas am yr un rheswm â Geraint - mae'n cael ei ddefnyddio am 'character' yng nghyd-destun cyfrifiaduron. Ond wrth chwilio am fwy o ddiffiniadau mae'n amlwg bod Dafydd yn iawn o ran yr ystyr e.e. connecting point at which several lines come together; [noun] any thickened enlargement. Mae 'cwgn' yn ôl Geiriadur y brifysgol yn gallu golygu 'dolen mewn cadwyn' yn ogystal â "chainc mewn pren' etc. Dw i ddim yn teimlo'n gryf o blaid defnyddio 'cwgn' ond yn eitha cryf yn erbyn defnyddio 'nod' achos dydy ystyr 'nod' ddim byd tebyg i ystyr 'node' yn Saesneg. -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd Tomos Anfonwyd/Sent: 29 Medi 2011 16:09 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: ATB: node On Sep 29, 2011, Carolyn wrote: > Dw i'n cofio defnyddio cwgn wrth gyfeithu stwff Microsoft Geraint ond roedd > o'n ddiarth i mi hefyd. Erioed wedi clywed y gair mewn unrhyw gyd-destun tan heddiw, ond os yw cwgn yn meddwl 'knot' neu 'knuckle' dwi ddim yn credu fod e'n gyfystyr a 'node' ymhob cyd-destun. Mae node yn fwy o gangen, neu mewn cyd-destunnau eraill - plisgyn neu gynhyswydd (e.e. yn iaith XML mae pob elfen wedi ei gwmpasu mewn 'node' a mae nhw yn byw o fewn ei gilydd, fel cylch o fewn cylch. Mewn rhwydwaith gyfrifiadurol mae node yn gallu golygu cangen, ond weithiau 'cwgn', neu bwynt canolog lle mae popeth yn cysylltu i'w gilydd. Falle fod 'nod' yn addas, ond mae'n dibynnu lot ar y cyd-destun.