Print

Print


Ai gwahaniaeth sydd yma rhwng pre- a before. ee  gallwch roi hylif cyn-olchi ar ddilledyn cyn golchi'r dilledyn hwnnw yn y peiriant a bydd yn lanach wedyn neu rywbeth tebyg.
 
Meinir  
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">anna gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, September 22, 2011 1:01 PM
Subject: Re: ATB: pre-registration nursing

Ella mai fi sy'n dwp, ond onid ydan ni'n son yma am ddau ystyr ychydig yn wahanol y rhagosodiad 'pre'?? Mae'r enghreifftia isod (neu uchod, beth bynnag, enghreifftiau Berwyn) yn wahanol i pre-registration - on'd ydyn? Ar u funud fedra i ddim egluro pam yn groyw, ond maen nhw'n wahanol.

Anna

2011/9/22 Berwyn Jones <[log in to unmask]>
Yn y Termiadur cewch chi 'cyndreialu', 'cynolchi' a 'cynosod', sydd i
gyd yn dilyn yr un patrwm. A'r un patrwm gewch chi pan ragflaenir
berf(enw) gan o^l-'.

Eithriad i'r rheol yw peidio treiglo'r 'g' yn 'cyn-geni'.(On'd yw
'eithriad' yn gategori bach handi?!)

Berwyn

2011/9/22 Carolyn <[log in to unmask]>:
> Tueddu i gytuno Geraint - alla'i ddim meddwl am enghraifft lle mae berf yn
> treiglo chwaith ond wedi dweud hynny, mae berfenwau'n treiglo ar ôl 'rhag'
> (sy'n cael ei ddefnyddio mewn ffordd debyg e.e. rhagflaenu, rhagweld. Ai
> defnyddio 'cyn' o flaen 'berf' fel hyn efo cysylltair sy'n od yn ei hanfod?
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
> Lovgreen
> Anfonwyd/Sent: 22 Medi 2011 10:34
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: pre-registration nursing
>
> Rwyt ti newydd enwi eithriad dy hun - 'cyn-geni'.
>
> Ga'i awgrymu mai'r rheswm am hyn ydi mai berf ydio.
>
> Oes yna unrhyw enghraifft o ferf yn treiglo'n feddal ar ol 'cyn-' ?
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, September 22, 2011 10:07 AM
> Subject: Re: pre-registration nursing
>
>
> I ti, falle, ond dyw'r geiriaduron a'r gramadegau awdurdodol ddim yn
> nodi bod unrhyw eithriad i'r rheol bod treiglad meddal ar o^l 'cyn-'.
>
> Berwyn
>
> 2011/9/22 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>> Iawn efo ansoddeiriau, ond i fi dydi 'cyn' ddim yn treiglo berfau fel
>> cofrestru (a does dim angen cysylltnod chwaith gyda berf). Mae "cyn geni"
>> yn
>> enghraifft o hyn - byddai'r ansoddair yn treiglo - 'cyn-enedigol'.
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: Berwyn Jones
>> To: [log in to unmask]
>> Sent: Thursday, September 22, 2011 8:48 AM
>> Subject: Re: pre-registration nursing
>> Mae 'cyn-' fel rhagddodiad yn treiglo - gweler o dan 'pre-' yng Ngeiriadur
>> yr Academi, td. 1064: pre- (prefix), rhag- + soft mutation, cyn- + soft
>> mutation, occ. blaen- + soft mutation.
>> Y ffurfiau cywir, felly, yw 'cyn-Gambraidd, cyn-Geltaidd, cyn-ganseraidd,
>> cyn-gofrestru (ond does dim treiglad yn 'cyn-geni').
>> Gramadeg y Gymraeg, td 688-9 a nodyn [b] ar td 689 yn arbennig:
>> Pan fo'n golygu 'blaenorol' neu 'gyda' ... bydd 'cyn-' yn sbarduno'r
>> treiglad meddal; y treiglad trwynol a geir ar o^l 'cyn-' cryfhaol.
>> Berwyn
>>
>> 2011/9/21 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>>>
>>> Dwi ddim yn deall pam y byddai neb yn treiglo fama - nyrsio cyn cofrestru
>>> ydio siwr iawn.
>>>
>>> Dydi cyn ddim yn achosi treiglad yn y cyd-destun yma, nachdi?
>>>
>>> ----- Original Message -----
>>> From: Berwyn Jones
>>> To: [log in to unmask]
>>> Sent: Wednesday, September 21, 2011 4:13 PM
>>> Subject: Re: pre-registration nursing
>>> 'cyn-gofrestru' yw'r ffurf yng Ngeiriadur Bydwragedd Ballière (td. 222).
>>> Berwyn
>>>
>>> 2011/9/21 Rhian Huws <[log in to unmask]>
>>>>
>>>> P’nawn da bawb
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Oes term cydnabyddedig ar gyfer yr uchod – methu dod o hyd i ddim ar
>>>> Term
>>>> Cymru ac am ryw reswm dyw’r Termiadur Ar-lein ddim yn gweithio.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Wedi gwglo ac mae enghreifftiau o ‘cyn-cofrestru’, ‘cyn-gofrestru’ a
>>>> ‘cyn
>>>> cofrestru’...
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Yn ddiolchgar am bob cymorth
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Rhian
>>>>
>>>>
>>
>>
>