Ai gwahaniaeth sydd yma rhwng pre- a before. ee gallwch roi hylif cyn-olchi ar ddilledyn cyn golchi'r dilledyn hwnnw yn y peiriant a bydd yn lanach wedyn neu rywbeth tebyg. Meinir ----- Original Message ----- From: anna gruffydd To: [log in to unmask] Sent: Thursday, September 22, 2011 1:01 PM Subject: Re: ATB: pre-registration nursing Ella mai fi sy'n dwp, ond onid ydan ni'n son yma am ddau ystyr ychydig yn wahanol y rhagosodiad 'pre'?? Mae'r enghreifftia isod (neu uchod, beth bynnag, enghreifftiau Berwyn) yn wahanol i pre-registration - on'd ydyn? Ar u funud fedra i ddim egluro pam yn groyw, ond maen nhw'n wahanol. Anna 2011/9/22 Berwyn Jones <[log in to unmask]> Yn y Termiadur cewch chi 'cyndreialu', 'cynolchi' a 'cynosod', sydd i gyd yn dilyn yr un patrwm. A'r un patrwm gewch chi pan ragflaenir berf(enw) gan o^l-'. Eithriad i'r rheol yw peidio treiglo'r 'g' yn 'cyn-geni'.(On'd yw 'eithriad' yn gategori bach handi?!) Berwyn 2011/9/22 Carolyn <[log in to unmask]>: > Tueddu i gytuno Geraint - alla'i ddim meddwl am enghraifft lle mae berf yn > treiglo chwaith ond wedi dweud hynny, mae berfenwau'n treiglo ar ôl 'rhag' > (sy'n cael ei ddefnyddio mewn ffordd debyg e.e. rhagflaenu, rhagweld. Ai > defnyddio 'cyn' o flaen 'berf' fel hyn efo cysylltair sy'n od yn ei hanfod? > > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint > Lovgreen > Anfonwyd/Sent: 22 Medi 2011 10:34 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: pre-registration nursing > > Rwyt ti newydd enwi eithriad dy hun - 'cyn-geni'. > > Ga'i awgrymu mai'r rheswm am hyn ydi mai berf ydio. > > Oes yna unrhyw enghraifft o ferf yn treiglo'n feddal ar ol 'cyn-' ? > > Geraint > > ----- Original Message ----- > From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Thursday, September 22, 2011 10:07 AM > Subject: Re: pre-registration nursing > > > I ti, falle, ond dyw'r geiriaduron a'r gramadegau awdurdodol ddim yn > nodi bod unrhyw eithriad i'r rheol bod treiglad meddal ar o^l 'cyn-'. > > Berwyn > > 2011/9/22 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>: >> Iawn efo ansoddeiriau, ond i fi dydi 'cyn' ddim yn treiglo berfau fel >> cofrestru (a does dim angen cysylltnod chwaith gyda berf). Mae "cyn geni" >> yn >> enghraifft o hyn - byddai'r ansoddair yn treiglo - 'cyn-enedigol'. >> >> ----- Original Message ----- >> From: Berwyn Jones >> To: [log in to unmask] >> Sent: Thursday, September 22, 2011 8:48 AM >> Subject: Re: pre-registration nursing >> Mae 'cyn-' fel rhagddodiad yn treiglo - gweler o dan 'pre-' yng Ngeiriadur >> yr Academi, td. 1064: pre- (prefix), rhag- + soft mutation, cyn- + soft >> mutation, occ. blaen- + soft mutation. >> Y ffurfiau cywir, felly, yw 'cyn-Gambraidd, cyn-Geltaidd, cyn-ganseraidd, >> cyn-gofrestru (ond does dim treiglad yn 'cyn-geni'). >> Gramadeg y Gymraeg, td 688-9 a nodyn [b] ar td 689 yn arbennig: >> Pan fo'n golygu 'blaenorol' neu 'gyda' ... bydd 'cyn-' yn sbarduno'r >> treiglad meddal; y treiglad trwynol a geir ar o^l 'cyn-' cryfhaol. >> Berwyn >> >> 2011/9/21 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> >>> >>> Dwi ddim yn deall pam y byddai neb yn treiglo fama - nyrsio cyn cofrestru >>> ydio siwr iawn. >>> >>> Dydi cyn ddim yn achosi treiglad yn y cyd-destun yma, nachdi? >>> >>> ----- Original Message ----- >>> From: Berwyn Jones >>> To: [log in to unmask] >>> Sent: Wednesday, September 21, 2011 4:13 PM >>> Subject: Re: pre-registration nursing >>> 'cyn-gofrestru' yw'r ffurf yng Ngeiriadur Bydwragedd Ballière (td. 222). >>> Berwyn >>> >>> 2011/9/21 Rhian Huws <[log in to unmask]> >>>> >>>> P’nawn da bawb >>>> >>>> >>>> >>>> Oes term cydnabyddedig ar gyfer yr uchod – methu dod o hyd i ddim ar >>>> Term >>>> Cymru ac am ryw reswm dyw’r Termiadur Ar-lein ddim yn gweithio. >>>> >>>> >>>> >>>> Wedi gwglo ac mae enghreifftiau o ‘cyn-cofrestru’, ‘cyn-gofrestru’ a >>>> ‘cyn >>>> cofrestru’... >>>> >>>> >>>> >>>> Yn ddiolchgar am bob cymorth >>>> >>>> >>>> >>>> Rhian >>>> >>>> >> >> >