Ond dwi'n meddwl bod yna wahaniaeth barn neu wahaniaeth synnwyr y glust o ran y treiglo.
 
Clywais rywun yn dweud mai cyfaddawd yw Swyddfa'r Post oherwydd na allai dau ysgolhaig gloyw gytuno a oedd treiglad ar ôl Swyddfa - y gogleddwr o blaid treiglad, Swyddfa Bost a'r deheuwr o blaid y ffurf gysefin, Swyddfa Post.
 
Pan ddechreues i gyfieithu yn y brifysgol ym Mangor, Adran Cerdd oedd fy rhagflaenydd wedi penderfynu ei roi ar arwydd yr adran honno, ac roedd hyn yn chwithig iawn i mi.  Hwntw ydoedd yntau a dyna a ddeuai yn naturiol i'w glust yntau lle bo'r ail enw yn enidol.
 
Megan

--- On Tue, 20/9/11, Carolyn <[log in to unmask]> wrote:

From: Carolyn <[log in to unmask]>
Subject: ATB: ATB: ATB/RE: clinical ethics
To: [log in to unmask]
Date: Tuesday, 20 September, 2011, 13:04



Yn union - dyna'n o'n i'n trio'i ddweud ond rwyt ti wedi'i ddweud yn dwtach (fel arfer!).

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 20 Medi 2011 12:54
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: ATB/RE: clinical ethics

 

Am mai nid ansoddair y mae'r Gymraeg eisiau ei roi yno ond enw - h.y. peirianneg genynnau yn hytrach na pheirianneg enynnol.

 

Felly yn reddfol mae na ryw deimlad nad oes eisiau treiglo. Ond o roi'r ansoddair, mae'n debyg bod yn rhaid treiglo.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="http:[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank ymailto="mailto:[log in to unmask]">megan tomos

To: [log in to unmask] href="http:[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank ymailto="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, September 20, 2011 12:35 PM

Subject: Re: ATB: ATB/RE: clinical ethics

 

Pwynt da!  Cerdd Dant ddywedwn ni, a throi i fyd traddodiadol, ac nid Cerdd Dannol (o greu ansoddair o'r gair Tant).  Ond pam yr amwysedd am y treiglo'n feddal?

 

Megan

--- On Tue, 20/9/11, Carolyn <[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank ymailto="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]> wrote:


From: Carolyn <[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank ymailto="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]>
Subject: ATB: ATB/RE: clinical ethics
To: [log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank ymailto="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Date: Tuesday, 20 September, 2011, 12:17

Ond dw i'n meddwl y gall defnyddio ansoddeiriau 'ol' fel hyn fod yn od braidd weithiau ac mai dyna lle mae'r dryswch/ansicrwydd yn codi e.e. troseddau rhywiol yn hytrach na 'throseddau rhyw'/ cigydd cartrefol/ rhyfel cartrefol, tai cymdeithasol ac ati. Tybed fyddai pobl wedi defnyddio ansoddeiriau fel hyn yn y gorffennol e.e. ai 'peirianneg (y) genynnau' fyddai fwya naturiol ac mai ni sydd wedi dechrau defnyddio ansoddeiriau fel hyn yn Gymraeg gan ddilyn trefn y Saesneg? Dw i ddim yn dadlau y dylid peidio â defnyddio ansoddeiriau fel hyn - dim ond cynnig rheswm posib dros yr ansicrwydd. 

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 20 Medi 2011 11:59
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB/RE: clinical ethics

 

A does dim byd yn rhywiol am afiechydon rhywiol!

 

Newydd Wglo hwnna i wneud yn siwr ei fod yn cael ei ddefnyddio a gweld enghraifft o "llau cyhoeddus"!!

 

 

 

On 20 Medi 2011, at 11:45, megan tomos wrote:

 

Cytuno efo ti, David.  Does dim byd yn enynnol mewn peirianneg enynnol ond y mae'n ymwneud â genynnau.

 

Megan

 

--- On Tue, 20/9/11, David Bullock <[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]> wrote:


From: David Bullock <[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]>
Subject: ATB/RE: clinical ethics
To: [log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]
Date: Tuesday, 20 September, 2011, 10:06

Dwi wedi bod yn ceisio deall pam y dylai 'moeseg glinigol' fod yn anodd ei dderbyn.

Dyw 'clinigol' ddim yn gorfod awgrymu mai nodwedd ar y foeseg yw ei bod yn ymddwyn mewn modd clinigol, ydy e? 'Yn ymwneud â gwaith clinig neu â gwaith clinigwyr' yw'r ystyr yn y cyd-destun yma, ife ? Hynny yw yr hen 'of or pertaining to...' yn Saesneg.

Dyw 'polisi cymdeithasol' ddim yn hala dyn i feddwl mai rhyw bolisi sy'n hoff o dreulio awr fach yn y Llew Coch gyda'i ffrindiau sy 'na! Polisi *sy'n ymwneud â* chymdeithas neu gymdeithasau yw e.




-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 20 Medi 2011 01:30
To: [log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]
Subject: Re: clinical ethics

Rhaid treiglo wrth gwrs - ond mae o'n dal i swnio braidd yn chwithig i mi, am ryw reswm!

Dwi'n meddwl 'mod i'n cytuno � Martin ynglyn ag 'ethics in clinical practice'. Defnyddir 'philosophy of religion' yn hytrach na 'religious philosophy' - efallai am fod yr olaf yn amwys; ond 'political philosophy' nid 'philosophy of politics'.

Hm.

On Mon, 19 Sep 2011 18:24:54 +0200, anna gruffydd <[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]> wrote:

>Ella na fi sy'n dwp ond fedra i yn fy myw weld pam na fasa 'clinigol' yn
>ansoddair yn y cyd-destun yma ac felly'n treiglo. Mi fydda inna'n aml yn
>amau - pan nad ydi'n glir a ydi'r ail enw yn cael ei ddefnyddio'n
>ansoddeiriol ynteu'n berthynol (os mai dyna'r gair iawn - go brin ond fedra
>i ddim meddwl be ydi'r un iawn). Ond siawns, os dio'n diweddu mewn 'ol', nad
>ydi o'n ansoddair pur. Sorri, fel deudais i, ella mod i wedi camddallt y
>cwestiwn yn y lle cynta.
>
>
>2011/9/19 Dafydd Lewis <[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]>
>
>> Byddaf yn aml yn gorfod meddwl ddwywaith am dreigliadau meddal fel hyn.
>>
>> Yn y drafft cyntaf mi fyddwn yn tueddu rhoi 'moeseg clinigol' (er
>> enghraifft) ond wrth wirio'r gwaith ac wedi edrych yn Cysgair i weld a yw
>> 'moeseg' yn air gwrywaidd neu fenywaidd, bydd treiglo'n cymryd lle!
>>
>> Yna daw cyfnod o amheuaeth...ydi o'n swnio'n iawn?...ac yna edrych prun
>> sydd yn digwydd yn amlach ar Google!
>>
>> Rwbath i'w neud hefo dwad o'r Gogladd am wn i ydi hyn?
>>
>> Dafydd
>>
>>
>> On Thu, 15 Sep 2011 17:21:59 +0100, Rhian Huws <[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]>
>> wrote:
>>
>> >Mae?r gwaith wedi mynd, a threiglo wnes i yn y pen draw.
>> >
>> >
>> >
>> >Diolch
>> >
>> >
>> >
>> >Rhian
>> >
>> >
>> >
>> >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> >[mailto:[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
>> >Sent: 15 September 2011 16:47
>> >To: [log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]
>> >Subject: Re: clinical ethics
>> >
>> >
>> >
>> >Treiglo fyddwn i am fod 'moeseg' yn enw benywaidd. 'Moeseg gymhwysol' yw
>> >'applied ethics' yn ochr Cymraeg-Saesneg y Termiadur.
>> >
>> >
>> >
>> >Wela i ddim rheswm dros beidio treiglo.
>> >
>> >
>> >
>> > Berwyn
>> >
>> >
>> >
>> >2011/9/15 Rhian Huws <[log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]>
>> >
>> >Pnawn Da
>> >
>> >
>> >
>> >Dwi?n dechrau drysu fy hun yn fan hyn. Fedr rywun ddweud wrthai p?un sy?n
>> >gywir:
>> >
>> >
>> >
>> >Moeseg glinigol ynteu moeseg clinigol?
>> >
>> >
>> >
>> >Dwi ddim yn credu mai ansoddeiriol yw ?clinigol? yma ? moeseg yn y maes
>> >clinigol sydd dan sylw hyd y gwelaf.
>> >
>> >
>> >
>> >Diolch yn fawr
>> >
>> >
>> >
>> >Rhian
>> >
>> >
>> >
>> >Rhian Huws
>> >
>> >Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services
>> >
>> > 47 Mayfield Avenue , Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL
>> >
>> >E-bost/E-mail: [log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask] / [log in to unmask]" rel=nofollow target=_blank>[log in to unmask]
>> >
>> >Ff?n/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492
>> >
>> >www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk
>> >
>> >
>> >
>> >
>> >
>> >
>>
>