Ond dwi'n meddwl bod yna wahaniaeth barn neu wahaniaeth synnwyr y glust o ran y treiglo. Clywais rywun yn dweud mai cyfaddawd yw Swyddfa'r Post oherwydd na allai dau ysgolhaig gloyw gytuno a oedd treiglad ar ôl Swyddfa - y gogleddwr o blaid treiglad, Swyddfa Bost a'r deheuwr o blaid y ffurf gysefin, Swyddfa Post. Pan ddechreues i gyfieithu yn y brifysgol ym Mangor, Adran Cerdd oedd fy rhagflaenydd wedi penderfynu ei roi ar arwydd yr adran honno, ac roedd hyn yn chwithig iawn i mi. Hwntw ydoedd yntau a dyna a ddeuai yn naturiol i'w glust yntau lle bo'r ail enw yn enidol. Megan --- On Tue, 20/9/11, Carolyn <[log in to unmask]> wrote: From: Carolyn <[log in to unmask]> Subject: ATB: ATB: ATB/RE: clinical ethics To: [log in to unmask] Date: Tuesday, 20 September, 2011, 13:04 Yn union - dyna'n o'n i'n trio'i ddweud ond rwyt ti wedi'i ddweud yn dwtach (fel arfer!). Carolyn Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen Anfonwyd/Sent: 20 Medi 2011 12:54 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: ATB: ATB/RE: clinical ethics Am mai nid ansoddair y mae'r Gymraeg eisiau ei roi yno ond enw - h.y. peirianneg genynnau yn hytrach na pheirianneg enynnol. Felly yn reddfol mae na ryw deimlad nad oes eisiau treiglo. Ond o roi'r ansoddair, mae'n debyg bod yn rhaid treiglo. ----- Original Message ----- From: megan tomos To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, September 20, 2011 12:35 PM Subject: Re: ATB: ATB/RE: clinical ethics Pwynt da! Cerdd Dant ddywedwn ni, a throi i fyd traddodiadol, ac nid Cerdd Dannol (o greu ansoddair o'r gair Tant). Ond pam yr amwysedd am y treiglo'n feddal? Megan --- On Tue, 20/9/11, Carolyn <[log in to unmask]> wrote: From: Carolyn <[log in to unmask]> Subject: ATB: ATB/RE: clinical ethics To: [log in to unmask] Date: Tuesday, 20 September, 2011, 12:17 Ond dw i'n meddwl y gall defnyddio ansoddeiriau 'ol' fel hyn fod yn od braidd weithiau ac mai dyna lle mae'r dryswch/ansicrwydd yn codi e.e. troseddau rhywiol yn hytrach na 'throseddau rhyw'/ cigydd cartrefol/ rhyfel cartrefol, tai cymdeithasol ac ati. Tybed fyddai pobl wedi defnyddio ansoddeiriau fel hyn yn y gorffennol e.e. ai 'peirianneg (y) genynnau' fyddai fwya naturiol ac mai ni sydd wedi dechrau defnyddio ansoddeiriau fel hyn yn Gymraeg gan ddilyn trefn y Saesneg? Dw i ddim yn dadlau y dylid peidio â defnyddio ansoddeiriau fel hyn - dim ond cynnig rheswm posib dros yr ansicrwydd. Carolyn Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts Anfonwyd/Sent: 20 Medi 2011 11:59 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: ATB/RE: clinical ethics A does dim byd yn rhywiol am afiechydon rhywiol! Newydd Wglo hwnna i wneud yn siwr ei fod yn cael ei ddefnyddio a gweld enghraifft o "llau cyhoeddus"!! On 20 Medi 2011, at 11:45, megan tomos wrote: Cytuno efo ti, David. Does dim byd yn enynnol mewn peirianneg enynnol ond y mae'n ymwneud â genynnau. Megan --- On Tue, 20/9/11, David Bullock <[log in to unmask]> wrote: From: David Bullock <[log in to unmask]> Subject: ATB/RE: clinical ethics To: [log in to unmask] Date: Tuesday, 20 September, 2011, 10:06 Dwi wedi bod yn ceisio deall pam y dylai 'moeseg glinigol' fod yn anodd ei dderbyn. Dyw 'clinigol' ddim yn gorfod awgrymu mai nodwedd ar y foeseg yw ei bod yn ymddwyn mewn modd clinigol, ydy e? 'Yn ymwneud â gwaith clinig neu â gwaith clinigwyr' yw'r ystyr yn y cyd-destun yma, ife ? Hynny yw yr hen 'of or pertaining to...' yn Saesneg. Dyw 'polisi cymdeithasol' ddim yn hala dyn i feddwl mai rhyw bolisi sy'n hoff o dreulio awr fach yn y Llew Coch gyda'i ffrindiau sy 'na! Polisi *sy'n ymwneud â* chymdeithas neu gymdeithasau yw e. -----Neges Wreiddiol/Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd Lewis Sent: 20 Medi 2011 01:30 To: [log in to unmask] Subject: Re: clinical ethics Rhaid treiglo wrth gwrs - ond mae o'n dal i swnio braidd yn chwithig i mi, am ryw reswm! Dwi'n meddwl 'mod i'n cytuno � Martin ynglyn ag 'ethics in clinical practice'. Defnyddir 'philosophy of religion' yn hytrach na 'religious philosophy' - efallai am fod yr olaf yn amwys; ond 'political philosophy' nid 'philosophy of politics'. Hm. On Mon, 19 Sep 2011 18:24:54 +0200, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote: >Ella na fi sy'n dwp ond fedra i yn fy myw weld pam na fasa 'clinigol' yn >ansoddair yn y cyd-destun yma ac felly'n treiglo. Mi fydda inna'n aml yn >amau - pan nad ydi'n glir a ydi'r ail enw yn cael ei ddefnyddio'n >ansoddeiriol ynteu'n berthynol (os mai dyna'r gair iawn - go brin ond fedra >i ddim meddwl be ydi'r un iawn). Ond siawns, os dio'n diweddu mewn 'ol', nad >ydi o'n ansoddair pur. Sorri, fel deudais i, ella mod i wedi camddallt y >cwestiwn yn y lle cynta. > > >2011/9/19 Dafydd Lewis <[log in to unmask]> > >> Byddaf yn aml yn gorfod meddwl ddwywaith am dreigliadau meddal fel hyn. >> >> Yn y drafft cyntaf mi fyddwn yn tueddu rhoi 'moeseg clinigol' (er >> enghraifft) ond wrth wirio'r gwaith ac wedi edrych yn Cysgair i weld a yw >> 'moeseg' yn air gwrywaidd neu fenywaidd, bydd treiglo'n cymryd lle! >> >> Yna daw cyfnod o amheuaeth...ydi o'n swnio'n iawn?...ac yna edrych prun >> sydd yn digwydd yn amlach ar Google! >> >> Rwbath i'w neud hefo dwad o'r Gogladd am wn i ydi hyn? >> >> Dafydd >> >> >> On Thu, 15 Sep 2011 17:21:59 +0100, Rhian Huws <[log in to unmask]> >> wrote: >> >> >Mae?r gwaith wedi mynd, a threiglo wnes i yn y pen draw. >> > >> > >> > >> >Diolch >> > >> > >> > >> >Rhian >> > >> > >> > >> >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones >> >Sent: 15 September 2011 16:47 >> >To: [log in to unmask] >> >Subject: Re: clinical ethics >> > >> > >> > >> >Treiglo fyddwn i am fod 'moeseg' yn enw benywaidd. 'Moeseg gymhwysol' yw >> >'applied ethics' yn ochr Cymraeg-Saesneg y Termiadur. >> > >> > >> > >> >Wela i ddim rheswm dros beidio treiglo. >> > >> > >> > >> > Berwyn >> > >> > >> > >> >2011/9/15 Rhian Huws <[log in to unmask]> >> > >> >Pnawn Da >> > >> > >> > >> >Dwi?n dechrau drysu fy hun yn fan hyn. Fedr rywun ddweud wrthai p?un sy?n >> >gywir: >> > >> > >> > >> >Moeseg glinigol ynteu moeseg clinigol? >> > >> > >> > >> >Dwi ddim yn credu mai ansoddeiriol yw ?clinigol? yma ? moeseg yn y maes >> >clinigol sydd dan sylw hyd y gwelaf. >> > >> > >> > >> >Diolch yn fawr >> > >> > >> > >> >Rhian >> > >> > >> > >> >Rhian Huws >> > >> >Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services >> > >> > 47 Mayfield Avenue , Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL >> > >> >E-bost/E-mail: [log in to unmask] / [log in to unmask] >> > >> >Ff?n/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492 >> > >> >www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk >> > >> > >> > >> > >> > >> > >> >