Rhaid treiglo wrth gwrs - ond mae o'n dal i swnio braidd yn chwithig i mi, am ryw reswm! Dwi'n meddwl 'mod i'n cytuno â Martin ynglyn ag 'ethics in clinical practice'. Defnyddir 'philosophy of religion' yn hytrach na 'religious philosophy' - efallai am fod yr olaf yn amwys; ond 'political philosophy' nid 'philosophy of politics'. Hm. On Mon, 19 Sep 2011 18:24:54 +0200, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote: >Ella na fi sy'n dwp ond fedra i yn fy myw weld pam na fasa 'clinigol' yn >ansoddair yn y cyd-destun yma ac felly'n treiglo. Mi fydda inna'n aml yn >amau - pan nad ydi'n glir a ydi'r ail enw yn cael ei ddefnyddio'n >ansoddeiriol ynteu'n berthynol (os mai dyna'r gair iawn - go brin ond fedra >i ddim meddwl be ydi'r un iawn). Ond siawns, os dio'n diweddu mewn 'ol', nad >ydi o'n ansoddair pur. Sorri, fel deudais i, ella mod i wedi camddallt y >cwestiwn yn y lle cynta. > > >2011/9/19 Dafydd Lewis <[log in to unmask]> > >> Byddaf yn aml yn gorfod meddwl ddwywaith am dreigliadau meddal fel hyn. >> >> Yn y drafft cyntaf mi fyddwn yn tueddu rhoi 'moeseg clinigol' (er >> enghraifft) ond wrth wirio'r gwaith ac wedi edrych yn Cysgair i weld a yw >> 'moeseg' yn air gwrywaidd neu fenywaidd, bydd treiglo'n cymryd lle! >> >> Yna daw cyfnod o amheuaeth...ydi o'n swnio'n iawn?...ac yna edrych prun >> sydd yn digwydd yn amlach ar Google! >> >> Rwbath i'w neud hefo dwad o'r Gogladd am wn i ydi hyn? >> >> Dafydd >> >> >> On Thu, 15 Sep 2011 17:21:59 +0100, Rhian Huws <[log in to unmask]> >> wrote: >> >> >Mae�r gwaith wedi mynd, a threiglo wnes i yn y pen draw. >> > >> > >> > >> >Diolch >> > >> > >> > >> >Rhian >> > >> > >> > >> >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones >> >Sent: 15 September 2011 16:47 >> >To: [log in to unmask] >> >Subject: Re: clinical ethics >> > >> > >> > >> >Treiglo fyddwn i am fod 'moeseg' yn enw benywaidd. 'Moeseg gymhwysol' yw >> >'applied ethics' yn ochr Cymraeg-Saesneg y Termiadur. >> > >> > >> > >> >Wela i ddim rheswm dros beidio treiglo. >> > >> > >> > >> >Berwyn >> > >> > >> > >> >2011/9/15 Rhian Huws <[log in to unmask]> >> > >> >Pnawn Da >> > >> > >> > >> >Dwi�n dechrau drysu fy hun yn fan hyn. Fedr rywun ddweud wrthai p�un sy�n >> >gywir: >> > >> > >> > >> >Moeseg glinigol ynteu moeseg clinigol? >> > >> > >> > >> >Dwi ddim yn credu mai ansoddeiriol yw �clinigol� yma � moeseg yn y maes >> >clinigol sydd dan sylw hyd y gwelaf. >> > >> > >> > >> >Diolch yn fawr >> > >> > >> > >> >Rhian >> > >> > >> > >> >Rhian Huws >> > >> >Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services >> > >> >47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL >> > >> >E-bost/E-mail: [log in to unmask] / [log in to unmask] >> > >> >Ff�n/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492 >> > >> >www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk >> > >> > >> > >> > >> > >> > >> >