Rhywbeth o'r byd cynllunio yw hwn, a chefais dipyn o wybodaeth ar: http://www.transportassessment.org/whatIsATa.htm: The need for, and scope of, a Transport Assessment for new developments is determined primarily through discussion with the relevant local authorities. However, if an assessment is required, there are two levels: * Transport Statement - for developments which have a relatively small transport implication; and * Transport Assessment - for developments which have significant transport implications ac mae llawer mwy o eglurhad hefyd. O ran "transport assessment", gwelaf, yn anffodus, mewn lleoedd eraill bod "traffic impact assessments" a "transport impact assessments" ar gael hefyd. (Tybed a oes gwahaniaeth, ynteu llacrwydd cofnodi sy'n gyfrifol am y ddau derm?). Ceir "asesiad effaith traffig", "asesiad effaith trafnidiaeth" ac "asesiad effaith cludiant" ar Wgl, gyda mwy o'r cyntaf, ond wrth gwrs ni wn ba dermau maen nhw'n eu cyfieithu. Mae dwywaith y nifer o enghreifftiau o "datganiad cludiant" ar Wgl i'r nifer o enghreifftiau o "datganiad trafnidiaeth", a'r rhan fwyaf o'r ail yn dod o un ddogfen - OND cylchlythyr Llywodraeth Cymru yw'r ddogfen honno! Caf argraff bendant o Derm-Cymru mai "traffig" yw "traffic" a bod "transport" weithiau'n "trafnidiaeth" ac weithiau'n "cludiant". Fel arfer mae'r gwahaniaeth yn gwneud synnwyr, yn ol y cyd-destun. Bwriadaf ddefnyddio "Datganiad Trafnidiaeth" os na chlywaf yn wahanol heddiw, ond tybed a fyddai modd rhestru rhagor o dermau fel "transport statement/assessment" yn Nherm-Cymru fel nad oes angen ymchwilio'r cefndir cyn penderfynu ar y term, ac er mwyn annog cysondeb ymhlith cyfieithiadau'r cynghorau? Ann