Gwir o bosib. Ond onid cylch cyfyng o weinyddwyr a chyfieithwyr sy'n gartrefol yn defnyddio termau o'r fath? Defnyddio iaith naturiol bob dydd y siaradwr Cymraeg yw'r nod yn gyntaf gan lwyddo i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.
 
Megan

--- On Sat, 20/8/11, Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]> wrote:

From: Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]>
Subject: Outcomes
To: [log in to unmask]
Date: Saturday, 20 August, 2011, 21:39


Mae 'Deilliant'  / 'Deilliannau' wedi ennill eu plwyf yn gyfforddus bellach - yn enwedig ym meysydd addysg / hyfforddiant ac iechyd / gofal; yn ogystal â nifer o'r meysydd (seicoleg seciatreg, ffisiotherapi, ac ati) sy'n gorgyffwrdd y ddau faes addysg ac iechyd.  Ond ddim yn unig yn y meysydd uchod ychwaith - mae defnydd lled eang i DEILLIANT erbyn hyn, mewn nifer o gyd-destunau gwahanol.
 
Eurwyn


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eleri James
Sent: 20 August 2011 19:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: outcomes

Beth am "canlyniadau i'w dymuno"? Rwyn cymryd mai'r bwriad yw cadw at y gair "canlyniadau" wrth drafod y "canlyniadau go iawn" ar ben draw'r daith. Os nag oes angen cadw at ddefnyddio un gair am "outcome" drwyddi draw, byddai modd defnyddio "gobeithion" ar y dechrau a "canlyniadau"/"llwyddiannau" ar y diwedd? Neu beth am ddefnyddio rhyw ymadrodd yn cynnwys "pen draw"?

Eleri James

 

--- On Sat, 20/8/11, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:

From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
Subject: outcomes
To: [log in to unmask]
Date: Saturday, 20 August, 2011, 17:39

Ydi "outcomes" yn gallu golygu rhywbeth fel "canlyniadau dymunol"?

Outcomes: This is what you hope will happen if you get the correct help and support.

Gwahanol i "result'.

Diolch

Si창n