Print

Print


Y drwg ydi bod RHAID i mi wahaniaethu rhwng gwahanol fathau o flew - mae yan fanflew wedyn y vellus ma ac wedyn blew terfynol - mae'r vellus yma mor obscure na dio ddim hyd yn oed yn Escarta - goro i mi chwilio amdano ar y we. Dwi'n meddwl mai cadw at y Lladin fydd rhaid i mi neu mi eith yr holl beth yn ffliwt. Diolch i bawb

Anna

2011/8/20 Eleri James <[log in to unmask]>
O ddarllen y drafodaeth a gafwyd, rwyn gweld bod Bruce wedi gwneud pwynt digon teg, nad oes angen mwy na'r gair 'blew' yn Gymraeg i wahaniaethu rhyngddo a 'gwallt'. Mantais 'blew' yw ei fod yn gyfarwydd i bawb, ac nid trigolion Llŷn yn unig. Ond petai angen trafod un blewyn, yna byddai amwyster o bosib - byddai'n rhaid sôn am 'flewyn o flew', neu 'flewyn o wallt' efallai?

Dwi'n meddwl bod eich syniad o roi'r enw Lladin hefyd yn taro naw. OND, dwi ddim yn gyfieithydd proffesiynol, felly gwell cadw tunnell o halen wrth law wrth ddarllen fy marn i!


Eleri James

--- On Sat, 20/8/11, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
Subject: Re: vellusDate: Saturday, 20 August, 2011, 19:28


diolch, sori, doeddwn i ddim yn cofio'r drafodaeth cynt - felly fyddai 'corflew' yn gwneud y tro? Fel deudais i, dwi wedi defnyddio'manflew' i gyfieithu rhywbeth arall. Pwy fydd yn dallt y terma ma beth bynnag? Ella basa'n well cadw at y Lladin sef yr un gair? peth Powerpoint ydi hwn - i be eith rhywun i ddrysu'r petha bach sy'n trio hyfforddi? Be dach chi'n feddwl?

Anna

2011/8/20 Eleri James <[log in to unmask]>
Trafodwyd ym mis Chwefror 2010 - gweler

https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?A2=ind1002&L=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&P=R4940&1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&9=A&J=on&X=77D4080FECEE4750AC&d=No+Match%3BMatch%3BMatches&z=4

Eleri James

--- On Sat, 20/8/11, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
Subject: vellus
To: [log in to unmask]
Date: Saturday, 20 August, 2011, 9:55


Dyma'r diffiniad:-

Vellus hair, colloquially called 'peach fuzz' or 'bum fluff', is short, fine, light-colored, and barely noticeable hair that develops on most of a person's body from his/her childhood. Exceptions include the lips, the back of the ear, the palm of the hand, the sole of the foot, some external genital areas, the navel and scar tissue. The density of hair – the number of hair follicles per area of skin – varies from person to person. Each strand of vellus hair is usually less than 2 mm (1/13 inch) long and the follicle is not connected to a sebaceous gland.[1]

Vellus hair is most easily observed on children and adult women, as they generally have less terminal hair to obscure it. Vellus hair is not lanugo hair. Lanugo hair is a much thicker type of hair that, in human forms, normally grows only on fetuses.

Vellus hair is differentiated from the more visible terminal or androgenic hair, which develops only during and after puberty, usually to a greater extent on men than it does on women.


Oes yna derm? Gyda llaw, dwi'n gorfod gwahaniaethu rhyngddo a manflew sef y gair dwi wedi'i ddefnyddio i gyfieithu lanugo (gw. uchod). Diolch


Anna