>dwi'n gallu dychmygu Ann yn sgrechian arnai rwan! Dim yn siwr am Ann, sy'n derbyn bod rhai pethau'n ennill eu lle, ond byddai Bruce yn dweud, mae'n siwr, mai "bod yn dad neu'n fam" yn ddigon. (rhaid imi beidio a siarad drosto'n rhy aml!) Ann -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 10 August 2011 15:56 To: [log in to unmask] Subject: Re: Personhood Ond a yw 'Personhood' ru'n peth â 'Selfhood'? Does gen i ddim syniad, rhaid i mi fod yn onest. Fe wnes i hanner meddwl defnyddio 'bod yn berson' gan mod i wedi gweld 'bod yn rhiant' am 'parenthood' yn rhywle (dwi'n gallu dychmygu Ann yn sgrechian arnai rwan!). Ond o ddifrif, dwi'n cytuno'n llwyr efo chi ynghylch gorddefnyddio'r gair 'person', ond os oes unrhyw enghraifft lle y gallech chi gyfiawnhau gwneud hynny, mi faswn ni'n dweud mai dyma hi! Rhian -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 10 August 2011 15:46 To: [log in to unmask] Subject: Re: Personhood Oni fyddai hynny'n ymwneud a thri person y Drindod? Gwelaf fod "selfhood" yn GyrA, ac mai "hunan, hunaniaeth" yw'r cynnig. Gwn fod Bruce yn *casau* gorddefnydd y gair "person", gan ddweud mai tri defnydd yn unig y byddai fo'n eu cymeradwyo, sef: i) wrth drafod y Drindod, person Crist ayb ii) wrth drafod gramadeg e.e. yr ail berson lluosog iii) fel gair anffurfiol ar gyfer ficer. Yn wir, mae gorddefnydd o'r gair, a hynny, 'rwy'n amau, am ei fod yn air y gall dysgwyr ei ddefnyddio heb orfod dysgu rhywbeth newydd(fel mae "partner" yn disodli "cymar"). Gwelais heddiw rywbeth yn Nhestunau'r Eisteddfod y flwyddyn nesaf yn son am "unrhyw berson" - beth sy'n bod ar "unrhyw un"? Nid yw hyn yn berthnasol (heblaw'r frawddeg gyntaf), nac yn gymorth ichi, ond mae rhaid imi gael rhefru ychydig. Ann -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg Sent: 10 August 2011 15:02 To: [log in to unmask] Subject: Re: Personhood Personoldeb? Mae'r term personoldeb yn cael ei defynyddio ym maes diwinyddiaeth. On 10/08/2011, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote: > Unrhyw syniadau os gwelwch yn dda? > > Dyma'r frawddeg erchyll: > > The term 'Personhood' arises from philosophy of dementia care to offer an > account of self, as something not maintained solely by cognitive ability, > but instead something that we partly construct socially through > relationships with people and things. > > > > Gan ddiolch ymlaen llaw am unrhyw lygedyn o oleuni. > > > > Rhian > >