Bydd hyn yn ofnadwy o ddiddorol o ran datblygiadau yn yr Alban, lle mae Llywodraeth y wlad honno i'w gweld yn mynd benben â Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig ar fater awdurdodaeth droseddol. Wotsh ddus sbes, ys dywedodd rhywun neu'i gilydd ...
 
Yn iach,
 
 
 
Tim
 
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ellis, Audrey (PPCS - Translation Service)
Sent: 10 August 2011 16:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: UK Bill of Rights

Diolch ichi am eich sylwadau. Rwy'n ymateb ar ran ein Huned Ddatblygu, sy'n gyfrifol am TermCymru.
 
O ran 'hawliau' a 'iawnderau', gweler y drafodaeth ar y Cylch ym mis Medi 2007 o dan 'human rights: nid y Ddeddf'.
 
Newydd ei gynnwys yng nghronfa TermCymru y mae'r teitl 'British Bill of Rights - Deddf Hawliau Dynol Brydeinig'. Felly bydd angen diwygio'r cofnod 'bill of rights - mesur hawliau', er cysondeb.
 
O ran y gair 'Bill' yn y teitl hwn, nid 'mesur' yn yr ystyr 'deddf ar ffurf drafft' sydd yma ond hen ddefnydd o'r gair sy'n gyfystyr â 'Deddf Seneddol'. Mae'n gyfeiriad at y 'Bill of Rights 1688', ond y syniad yw pasio deddf hawliau dynol 'Brydeinig' fydd yn disodli'r ddeddf hawliau dynol 'Ewropeaidd' (1998) sy'n seiliedig ar y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
 
Audrey
 

Audrey Ellis
Swyddog Busnes (Datblygu) / Business Officer (Development)
Y Gwasanaeth Cyfieithu / Translation Service
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Heol Picton / Picton Terrace
Caerfyrddin / Carmarthen
(  01267 225292
6 01267 225496
*  [log in to unmask]  

Defnyddiwr i-share / i-share user

Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Lywodraeth Cymru, unrhyw ran ohoni neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig â hi.

Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not necessarily those of the Welsh Government, any constituent part or connected body.


 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 09 August 2011 16:38
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: ATB: UK Bill of Rights

Cytuno Berwyn - Alla'i ddim dychmygu dweud 'Mae gen i iawnder'

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Berwyn Jones
Anfonwyd/Sent: 09 Awst 2011 16:27
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: UK Bill of Rights

 

Bu Meg a minne mewn cyfarfod â darlithydd yn y gyfraith yn lled ddiweddar. Pan holodd y darlithydd, 'Beth ych chi'n ei ddweud am 'rights'?, ateb Meg a fi oedd 'hawliau'. 'Diddorol' oedd unig ymateb y darlithydd.

 

Gall fod dau reswm dros osgoi 'iawnderau', sef ei fod yn derm sydd heb ennill ei blwyf ryw lawer (ar lafar, beth bynnag) a bod y ffurf unigol 'iawnder' yn fwy anghyfarwydd o lawer. I mi, mae 'iawnder' yn awgrymu 'rightness' (gweler o dan 'rightness' yn Gyr A).

 

Berwyn

2011/8/9 Jones,Sylvia Prys <[log in to unmask]>

Byddwn yn tueddu i gytuno efo Carolyn o ran y gair 'hawliau'. Yn ol Geiriadur Termau'r Gyfraith Prifysgol Bangor - 'mesur hawliau' yw 'bill of rights'  Mae'n debyg bod y Geiriadur hwnnw'n seiliedig ar waith y darlithwyr cyfrwng Cymraeg a nhw sydd wedi cymeradwyo'r termau.
Mae'r gair 'Bill' yn gamarweiniol efallai oherwydd ei fod yn cyfeirio at ddeddf felly byddwn yn defnyddio 'Deddf' yn hytrach na 'Mesur'.
Carolyn wrote:

Dw i'n cofio Meg yn sôn am hyn dipyn yn ôl a bod Robyn Lewis yn ffafrio 'iawnderau'??? Dw i'n rhyw feddwl bod 'hawliau dynol' wedi ennill ei blwy'n raddol dros y blynyddoedd diwethaf a bod 'iawnderau' wedi dechrau cael ei ddefnyddio'n llai aml yn y cyd-destun yma.

 
Carolyn

 
------------------------------------------------------------------------

*Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Geraint Lovgreen
*Anfonwyd/Sent:* 09 Awst 2011 12:49
*At/To:* [log in to unmask]
*Pwnc/Subject:* Re: UK Bill of Rights

 
Ie, pam "Hawliau" yn lle "Iawnderau"?  A pham "Deddf" am "Bill"?

 
Oes yna rywun o TermCymru'n gweithio heddiw all roi ateb tybed?

   ----- Original Message -----

   *From:* Ann Corkett <mailto:[log in to unmask]>



   *To:* [log in to unmask]

   <mailto:[log in to unmask]>

   *Sent:* Tuesday, August 09, 2011 12:29 PM



   *Subject:* Re: UK Bill of Rights

   
   Sbiwch hefyd ar "Rights" yn GyG.
   
   Mae GPC yn son llawer mwy am "iawnderau dinesig" ayb nag am
   "hawliau", a chaf yr argraff sydyn mai "equity" a "justice" yw
   "iawnder", tra bo "hawliau" yn golygu "entitlement".  Mae llawer mwy
   o enghreifftiau o "iawnderau dynol" ar y We nag o "hawliau dynol".     Eto, mae rhaid bod rhyw reswm pam nad oes yr un enghraifft o
   iawnder[au] ar TermCymru.  Fauswn i ddim yn hoffi meddwl mai dim ond
   symleiddio'r iaith yw'r rheswm dros hyn, ond mae rhaid ei fod yn
   fwriadol.

   
   Os oes gan Bruce unrhyw beth i'w ychwanegu, ysgrifennaf eto, ond
   beth bynnag y defnyddiwch, mae'n annhebyg y byddwch yn newid defnydd
   cyffredinol!

   
   Ann
   
   
   
   
   ------------------------------------------------------------------------

   *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
   vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf
   Of *Geraint Lovgreen
   *Sent:* 09 August 2011 12:08
   *To:* [log in to unmask]
   *Subject:* UK Bill of Rights

   Yn ôl Geiriadur y Gyfraith RL - Mesur Iawnderau yw Bill of Rights

   
   Yn ôl TermCymru - mesur hawliau

   
   Ond yn ôl TC eto - British Bill of Rights = Deddf Hawliau Dynol
   Brydeinig

   
   Felly sut mae cyfieithu "Do we need a UK Bill of Rights"? (Mae UK yn
   ansoddeiriol yn fan hyn hyd y gwela i.)

   
   "Oes angen Mesur Iawnderau i'r Deyrnas Unedig"?

   "Oes angen Mesur Hawliau i'r Deyrnas Unedig"?

   "Oes angen Deddf Hawliau Dynol Brydeinig"?

   "Oes angen Deddf Hawliau Dynol i'r Deyrnas Unedig"?

   



--
Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University

 


On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad