O’n i’n gorfod torri’r lawnt cyfan efo gwelle pan o’n i adre ar y ffarm, nid jyst rownd yr ymyl! Ffermwyr Sir Drefaldwyn yn rhy dlawd i gael peiriant torri glaswellt! Ac i bobl Maldwyn siswrn gwellt sy’n cael ei ddefnyddio i dorri’r ‘gwellt’ sydd ar eu pennau! Linda From: Ann Corkett Sent: Tuesday, August 23, 2011 7:46 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: shears Ydyn, a ‘dw i’n cofio’r swigod ar ol i Nhad fy nghael i dorri ymylon y lawnt efo nhw. Ann -------------------------------------------------------------------------------- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones Sent: 23 August 2011 16:43 To: [log in to unmask] Subject: Re: shears Petha bach ydy gwella cneifio! From: Geraint Lovgreen Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:34 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: shears Haha! Wel i fi mae gwellau'n beth mawr a siswrn yn beth bach, felly mi sticia i at y ngwelle! ----- Original Message ----- From: Rhian Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:27 PM Subject: Re: shears Sori Geraint, dw i di edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a falle bo ti’n iawn! ... ‘Used also for any kind of shears, e.g. for cutting hedges; but these are always called ‘siswrn’ by farmers;’ Fedra i ddim peidio meddwl ei bod hi’n cymryd tipyn o amser i ti dorri’r gwrych! Rhian From: Geraint Lovgreen Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:14 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: shears Gwellau, neu gwelle ar lafar, oedd gennon ni adre. Dwi'n meddwl mai gwellaif ydi'r gair iawn ond mae digon o enghreifftiau o gwellau wrth Wglo. ----- Original Message ----- From: Gareth Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:02 PM Subject: shears Siswrn mawr i dorri gwrych sydd gen i dan sylw. Siswrn barbro, chwedl fy nhad. Fyddai ‘siswrn barbro’ yn addas i’w gynnwys mewn taflenni gwaith i fyfyrwyr garddwriaeth? Ydy o’n rhy dafodieithol?