Ydyn, a ‘dw i’n cofio’r swigod ar ol i
Nhad fy nghael i dorri ymylon y lawnt efo nhw.
Ann
From:
Sent: 23 August 2011 16:43
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: shears
Petha bach ydy gwella
cneifio!
From: [log in to unmask]">Geraint Lovgreen
Sent: Tuesday, August 23,
2011 4:34 PM
Subject: Re:
shears
Haha! Wel i fi mae gwellau'n beth mawr a
siswrn yn beth bach, felly mi sticia i at y ngwelle!
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]">Rhian Jones
Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:27 PM
Subject: Re: shears
Sori Geraint, dw i di edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a falle bo ti’n iawn! ... ‘Used also for any kind of shears, e.g. for cutting hedges; but these are always called ‘siswrn’ by farmers;’ Fedra i ddim peidio meddwl ei bod hi’n cymryd tipyn o amser i ti dorri’r gwrych!
Rhian
From: [log in to unmask]">Geraint Lovgreen
Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:14 PM
Subject: Re: shears
Gwellau, neu gwelle ar lafar, oedd gennon ni adre. Dwi'n meddwl mai gwellaif ydi'r gair iawn ond mae digon o enghreifftiau o gwellau wrth Wglo.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]">Gareth Jones
Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:02 PM
Subject: shears
Siswrn mawr i dorri gwrych sydd gen i dan sylw. Siswrn barbro, chwedl fy nhad. Fyddai ‘siswrn barbro’ yn addas i’w gynnwys mewn taflenni gwaith i fyfyrwyr garddwriaeth? Ydy o’n rhy dafodieithol?