Sori Geraint, dw i di edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a falle bo
ti’n iawn! ... ‘Used also for any kind of shears, e.g. for cutting hedges; but
these are always called ‘siswrn’ by farmers;’ Fedra i ddim peidio meddwl ei
bod hi’n cymryd tipyn o amser i ti dorri’r gwrych!
Rhian
Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:14 PM
Subject: Re: shears
Gwellau, neu gwelle ar lafar, oedd gennon ni
adre. Dwi'n meddwl mai gwellaif ydi'r gair iawn ond mae digon o enghreifftiau
o gwellau wrth Wglo.
----- Original Message -----
Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:02
PM
Subject: shears
Siswrn mawr i dorri gwrych sydd gen i dan
sylw. Siswrn barbro, chwedl fy nhad. Fyddai ‘siswrn barbro’ yn addas i’w
gynnwys mewn taflenni gwaith i fyfyrwyr garddwriaeth? Ydy o’n rhy
dafodieithol?