Print

Print


Sori Geraint, dw i di edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a falle bo ti’n iawn! ... ‘Used also for any kind of shears, e.g. for cutting hedges; but these are always called ‘siswrn’ by farmers;’ Fedra i ddim peidio meddwl ei bod hi’n cymryd tipyn o amser i ti dorri’r gwrych!
Rhian  

From: Geraint Lovgreen 
Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:14 PM
To: [log in to unmask] 
Subject: Re: shears

Gwellau, neu gwelle ar lafar, oedd gennon ni adre. Dwi'n meddwl mai gwellaif ydi'r gair iawn ond mae digon o enghreifftiau o gwellau wrth Wglo.
  ----- Original Message ----- 
  From: Gareth Jones 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Tuesday, August 23, 2011 4:02 PM
  Subject: shears

  Siswrn mawr i dorri gwrych sydd gen i dan sylw. Siswrn barbro, chwedl fy nhad. Fyddai ‘siswrn barbro’ yn addas i’w gynnwys mewn taflenni gwaith i fyfyrwyr garddwriaeth? Ydy o’n rhy dafodieithol?