Fel y dywedodd un o ysgolheigion y Talmwd, "Ar y naill llaw, mae hwn yn gwestiwn anodd: ar y llall, cwestiwn anodd ydyw." Bydd llawer yn dibynnu, yn gyntaf, ar beth sydd mewn unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol. Os nad oes arweiniad cyson mewn dogfeannau awdurdodol megis Cylchlythyrau, Cyfarwyddiadau, ayyb, bydd raid troi at restrau geirfa, a craffu ar beth sy'n arferol gan y rhai sy'n addysgu'r ddisgyblaeth dan sylw. Un pwynt diddordol parthed y term Bill of Rights (fy mhwyslais i). Teitl swyddogol 1 Will. & Mary Sess. 2 c. 2 yw An Act declareing the Rights and Liberties of the Subject and Setleing the Succession of the Crowne. Felly Deddf, ac nid Mesur (sef Deddf ddrafft) yw'r ddogfen wreiddiol, er bod tuedd wedi cydio yn fuan iawn i gyfeirio ati fel The Bill of Rights. Y ddogfen gyfatebol yn yr Alban yw'r Claim of Right Act (1689 c. 28). Fodd bynnag, dyma'r diffiniadau sydd gyda ni: hawl ll. hawliau e.g. (moes., cyfr., gwleid., econ.) Buddiant, braint neu bŵer a fynnir, yn enw. mewn perthynas â phersonau eraill neu gyrff, ac o fewn fframwaith cyfundrefn gyfreithiol. right, entitlement iawnder ll. iawnderau e.g. (moes., cyfr., gwleid., econ.) Safon ymddwyn neu weithredu tuag at berson, sy’n gynsail i’w hawliau ac sy’n gynhenid i’r person yn hytrach nag yn ddeilliant fframwaith allanol. right Yn iach, Tim Tim Saunders Cyfieithydd Translator Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 09 August 2011 12:08 To: [log in to unmask] Subject: UK Bill of Rights Yn ôl Geiriadur y Gyfraith RL - Mesur Iawnderau yw Bill of Rights Yn ôl TermCymru - mesur hawliau Ond yn ôl TC eto - British Bill of Rights = Deddf Hawliau Dynol Brydeinig Felly sut mae cyfieithu "Do we need a UK Bill of Rights"? (Mae UK yn ansoddeiriol yn fan hyn hyd y gwela i.) "Oes angen Mesur Iawnderau i'r Deyrnas Unedig"? "Oes angen Mesur Hawliau i'r Deyrnas Unedig"? "Oes angen Deddf Hawliau Dynol Brydeinig"? "Oes angen Deddf Hawliau Dynol i'r Deyrnas Unedig"?