Yn amgau gohebiaeth er gwybodaeth. Mae’n
egluro ei hun. Mae’n codi cwestiwn pa mor gydradd yw’r Gymraeg, er pasio’r
ddeddf newydd. Am wn i, byddai cystal pe bai cymaint â phosib’ yn gofyn am
gynnwys y Gymraeg yn y cyd-destun hwn – mae arian yn beth sy’n bwysig o ran
proffil iaith. Prun bynnag, ar fannau gwan mi fyddaf yn cael rhyw byliau o
deimlo fy mod yn piso yn erbyn y gwynt gyda’r agweddau nawddoglyd a di-glem sy’n
brigo i’r wyneb yn rhai o’r e-byst hyn. (Ond siawns nad ydyw hynny yn newydd i
neb sy’n ymhel â’r Gymraeg.)
Iwan
From: Enquiries
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 June 2011 17:01
To: [log in to unmask]
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
Annwyl Mr Edgar
Diolch am eich e-bost diweddaraf.
Nid oes gan y Banc set o reolau ar gyfer cynllunwyr ei
bapurau banc. Mae’r Banc yn rhoi rhai ganllawiau I gynllunwyr ar gyfer pob
papur banc, a fyddai’n cynnwys manylion ynghylch nodweddion diogelwch
cyfrinachol a materion eraill. Gallaf gadarnhau nad oes gan y fath ganllawiau
fanylion ynghylch cynnwys nodweddion iaith Gymraeg ar bapurau banc. Rydym wedi
amlinellu ffactorau perthnasol amrywiol yn ein gohebiaeth gyda chi. Ynglŷn â
chanllawiau yn y dyfodol, gallai’r ffactorau sy’n berthnasol I benderfyniadau’r
Banc newid dros gyfnod o amser, er enghraifft wrth I nodweddion diogelwch newid.
Ar hyn o bryd, nid yw’r Banc yn cynnig cynnwys nodweddion
iaith Gymraeg ar bapurau banc. Fel y gwyddoch, mae’r Banc yn ymgynghori ar ei
Gynllun Iaith Gymraeg drafft. Rwy’n nodi eich bod wedi ymateb eisoes I’r
ymgynghoriad hwn gan egluro eich barn ynghylch cynnwys yr iaith Gymraeg ar
bapurau banc. Os oes gennych unrhyw bwyntiau eraill I’w gwneud ynghylch
defnyddio’r Gymraeg ar bapurau banc, byddwn yn gwahodd ichi ddefnyddio cyfle’r
ymgynghoriad hwn I wneud y pwyntiau hynny.
Yr eiddoch yn ddiffuant
Usman Choudhry
Public
Information and Enquiries Group | PCID | HO-M D-C
Bank of England |
Threadneedle Street | London EC2R 8AH | +44 20 7601 4878
From: Iwan Edgar
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: Monday, June 13, 2011 12:01
PM
To: Enquiries
Cc: [log in to unmask]
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
Diolch am yr ymateb.
Ymddengys nad ydych yn
ateb dim o'r pwyntiau, yn hytrach yn eu hosgoi.
Wrth lunio papurau banc
beth yn union yw'r rheolau a roddwch i'r cynllunwyr ? A oes dogfen
arweiniol yn bod ?
A gaf gymryd na bydd
cynnwys geiriad Cymraeg yn rhan o'r canllawiau ar gyfer y dyfodol ?
Parthed y rhifau Arabaidd
- yr wyf yn fawr amau mai dweud mewn awgrym eu bod yn gwneud y tro i mi
a'm tebyg oeddych ac nad ydym yn haeddu dim rhagor na hynny. Mae eich tawelwch
yn ddadlennol.
Iwan Edgar
From: Enquiries
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 13 June 2011 11:21
To: [log in to unmask]
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
Annwyl Mr Edgar
Diolch am eich e-bost diweddaraf, dyddiedig Mehefin
I June. Mewn gwirionedd nid oes dim byd pellach gennyf i ychwanegu at fy
ymatebion blaenorol ichi gan fy mod yn ystyried, i’r gwrthwyneb i’r hyn rydych
yn ei awgrymu, eich bod wedi cael esboniad llawn mewn cysylltiad â’r pwyntiau
rydych wedi’u codi yn yr ohebiaeth gynharach. Rwy’n nodi eich bod wedi adborthi
ar wahân i’m cydweithiwr, Mr. Norman, yn ddiweddar ynglŷn â’r
materion hyn, yn eich ymateb i’r ymgynghoriad ar Gynllun Iaith Gymraeg drafft y
Banc. Ystyrir y pwyntiau rydych wedi’u codi ganddo fel rhan o’r weithdrefn
ymgynghori. Hefyd rwy’n deall bod Mr. Norman wedi ymateb ichi i ddweud y bydd
yn adborthi eich sylwadau i mewn wrth gynhyrchu crynodeb o’r ymatebion a
dderbyniwyd, ac y bydd yn anfon copi o’r crynodeb hwnnw ichi. Er eich
gwybodaeth, disgwylir i’r crynodeb o’r ymatebion gael ei derfynu ym mis Medi.
Yr eiddoch yn ddiffuant
Usman Choudhry
Public Information and Enquiries Group | PCID | HO-M D-C
Bank of England |
Threadneedle Street | London EC2R 8AH | +44 27601 4878
From: Iwan Edgar
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, June 01, 2011
10:02 AM
To: Enquiries
Cc: 'Huw Gapper'
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
Diolch am eich ymateb.
Efallai y gofynnaf i’r Bwrdd Iaith
presennol am ei dehongliad ar bwerau’r comisiynydd ac ati.
Parthed pwyntiau ii a iii, ymddengys eich
bod yn gwrthod eu hateb.
Parthed ii - Do yr ydych wedi amlinellu'r
ystyriaethau cyffredinol sydd yn pennu cynllun papur banc, a thrwy wneud hynny
hyd y gwelaf wedi dangos bod rhai ystyriaethau’n rhagori ar eraill e.e. rhaid
nad ydynt yn gweld yn iawn yn erbyn rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg. A wnewch i
gydnabod hynny ? Neu a wnewch restru yn fanwl a chyfiawnhau'r meini prawf
perthnasol wrth lunio papur banc a nodi pam nad yw’r Gymraeg yn cael ei
hystyried er gwaethaf ei statws swyddogol ?
Parthed iii - Erys perthnasedd yr
ystyriaeth hon yn ddirgelwch llwyr i mi. Ni welaf bod eich neges ddiwethaf wedi
goleuo'r mymryn lleiaf arni. A gaf gymryd fod fy awgrym i o esboniad yn
gyfeiliornus ?
Iwan Edgar
From: Enquiries
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 31 May 2011 15:40
To: [log in to unmask]
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
Annwyl Mr Edgar
Diolch am eich e-bost diweddaraf.
O dan Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 (‘y
Mesur’), bydd gan y Comisiynydd y pŵer i weithredu rhyw safonau. Hefyd bydd
ganddo bwerau i gymryd camau i sicrhau cydymffurfio â’r safonau perthnasol, i’r
graddau y maent yn perthyn. Gweler y Mesur am fanylion ynghylch pwerau’r
Comisiynydd os gwelwch yn dda. Ni allaf roi manylion penodol eraill oherwydd
(hyd y gwyddom) na wnaethpwyd Rheoliadau sy’n pennu safonau, ac na chyflawnwyd
amodau amrywiol eraill a restrwyd yn fy ymateb blaenorol.
Ynglŷn â’ch pwyntiau eraill, nid oes llawer y
gallaf ei ychwanegu at gynnwys fy llythyrau blaenorol, sydd wedi rhoi esboniad
manwl priodol, rwy’n meddwl, ynghylch y mathau o broblemau y mae angen
i’r Banc eu hystyried mewn cysylltiad â’r cwestiynau am bapurau banc. Un pwynt
yr hoffwn ei wneud yw nad yw’n gwestiwn o reoliadau penodol yn cymryd
blaenoriaeth dros eraill, yn hytrach mae’n fater o wneud penderfyniadau am
gynllun papurau banc a seilir ar ffactorau perthnasol.
Yn olaf, os gwelwch yn dda a gaf dynnu eich sylw
i’r ffaith fod y Banc erbyn hyn wedi gosod, yn ei Gynllun Iaith Gymraeg drafft,
y camau y mae’n cynnig eu cymryd ynglŷn â’i ymrwymiadau o dan Ddeddf yr Iaith
Gymraeg 1993. Mae’r Cynllun drafft ar hyn o bryd yn agored ar gyfer ymgynghori:
http://www.bankofengland.co.uk/publications/other/welsh/consultation.htm
.Rwy’n
deall bod fy nghydweithiwr, Ben Norman, wedi eich hysbysu am yr ymgynghoriad
hwn eisoes. Os oes gennych unrhyw sylwadau pellach yr hoffech eu gwneud
ynghylch y Banc a chynnwys ei Gynllun Iaith Gymraeg drafft, os gwelwch yn dda a
allaf wahodd ichi gyflwyno eich barn drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus. Er eich
gwybodaeth mae’r ymgynghoriad yn cau ar Awst 19.
Yr eiddoch
Usman Choudhry
From: Shemmonds,
Malcolm
Sent: Wednesday, May 18, 2011 4:53
PM
To: Enquiries
Subject: FW: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
Diolch am eich ateb
i)
A ydwyf yn iawn yn dehongli y bydd gan
Gomisiynydd yr Iaith pan fydd yn ei swydd yr hawl i ddyfarnu ar deilyngdod eich
dull o drafod yr iaith a pheri newidiadau pe tybiai y bo hynny’n briodol ?
ii)
Yr wyf yn ymwybodol bod gofynion anorfod (fel y
rhestrwch hwy) ar gynllun papur banc. Yn ôl gogwydd yr hyn a ddywedwch byddai’r
Gymraeg yn llesteirio hynny. Yr ydych yn amlwg â chonsyrn rhag cael arian ffug.
A ydyw’n haws ffugio rhywbeth petai Cymraeg arno ? Hefyd ymboenwch, gyda’r
gweddustra teilwng am hawliau rhai nad ydynt yn gweld yn iawn, mwy felly yn ôl
pob golwg na hawliau siaradwyr Cymraeg. A ellwch felly’n benodol ddweud pa
reoliadau sy’n blaenoriaethu pethau ac a oes grym cyfreithiol cryfach i’r rheoliadau
hynny na Deddf Iaith sy’n rhoi hawl cyfartal i iaith frodorol yn ei thiriogaeth
ei hun ?
iii)
Unwaith eto mae eich sylwadau am y rhifolion yn
gwbl eglur. Nid oeddwn nac nid wyf yn anghytuno â hwy. Gofyn a wneuthum beth
oedd eu perthnasedd i’r drafodaeth. A awgrymwyd na ellid cael 5, 10, 20 ar
bapurau â Chymraeg arnynt ? Ynteu a oes awgrym fod 5, 10, 20 ar bapurau a bod y
rheiny yn ddigon da i siaradwyr Cymraeg (fel pob estron arall) ddyall gwerth
papur pe na baem yn dyall Saesneg ? Ai rhywbeth fel hyn sydd wedi ysbrydoli’r
sylw ?
Iwan Edgar
From: Shemmonds,
Malcolm [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 16 May 2011 12:39
To: [log in to unmask]
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
Annwyl Mr. Edgar
Diolch am eich e-bost diweddaraf.
1) Gofynnwch beth yw’r amodau angenrheidiol i Fesur
yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) berthyn i’r Banc. Fel eglurais
yn fy e-bost blaenorol ichi, gosodir y rhain yn adran 25 y Mesur – os gwelwch
yn dda gwelwch tudalen 16 o http://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/1/pdfs/mwa_20110001_mi.pdf O’r
amodau a osodir yma, rwyf yn deall y cwrddir ag amod 1, ond ni chwrddir ag
amodau 2-6 (eto). Ynglŷn â’ch cwestiwn a fydd y Mesur yn perthyn i’r Banc, bydd
hyn yn fater i Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg a benodir o dan y Mesur.
2), 3), 5) Mae lle cyfyngedig ar bapurau banc
i gynnwys testun a delweddau. Mae angen i’r testun a’r delweddau gwrdd â nifer
o ofynion. Ymhlith pethau eraill,
·
mae’n bwysig bod papurau banc yn cyfleu gwybodaeth
sylfaenol – fel eu gwerth. Yn benodol yma, pan yw pobl yn penderfynnu ar werth
papur banc, fel arfer maent yn dibynnu ar y ffordd mae rhifau’n dangos gwerth y
papur banc, h.y. “5”, “10”, “20”, “50”, ac hefyd ar liw/maint y papur banc, yn
hytrach nag ar y testun. Dyma’r pwynt roeddwn yn ceisio ei wneud yn fy sylwadau
blaenorol ar rifolion Arabaidd.
·
rydym yn gosod pwyslais cryf ar gynnwys nodweddion yn
erbyn arian ffug.
·
ar yr un pryd, rydym yn ymwybodol na ddylem lenwi cynnwys
papurau banc â gormod o destun a gormod o ddelweddau. Trwy wneud hyn, mae’n
helpu pobl sy’n rhannol ddall wrth iddynt drafod papurau banc.
Rydym yn teimlo ein bod wedi dod o hyd i gydbwysedd
priodol rhwng y gofynion hyn. Byddai cynnwys yr Iaith Gymraeg ar y papurau banc
(yn ychwanegol i’r testun Saesneg sydd yno eisoes) yn cymryd tipyn o le ar y
papurau banc, a allai amharu ar effeithiolrwydd y mesurau yn erbyn arian ffug
ac a allai sicrhau bod y papurau banc yn fwy anodd i’w defnyddio gan bobl sy’n
rhannol ddall.
4) Nid oes awgrym gennym fod gofynion i
ddefnyddio’r Iaith Gymraeg yn wastraffus. Yn fy llythyr blaenorol roeddwn ond
yn tynnu sylw at faterion amrywiol mae’r Banc wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth
ystyried cynllun papurau banc.
Yr eiddoch
Malcolm Shemmonds
From: Iwan Edgar
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, April 27, 2011
10:35 AM
To: Enquiries
Cc: 'Huw Gapper'
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
Diolch am yr ateb
1) “Hyd
yn hyn ni chwrddwyd â’r amodau hynny ynglŷn â’r Banc ...” meddech. O ran y
Banc, beth ydynt ac a fydd y banc yn dod dan gysgod o gwbl ?
2) “Nid yw’r
Banc yn cynnig gosod testun Cymraeg (na thestun mewn unrhyw iaith arall) ar
bapurau banc.” Ar wahân i Saesneg ?
3) “Wrth
ystyried cynllun papurau banc, mae rhaid i’r Banc ystyried
nifer o ffactorau, gan gynnwys minimeiddio’r risg o arian ffug, anghenion y
diwydiant trafod arian parod ac anghenion defnyddwyr drwy gydol y Deyrnas
Unedig, gan gynnwys pobl â nam ar eu golwg a phobl nad ydynt yn siarad Saesneg
(ai’n byw yma neu’n ymweld).” Dichon fod hyn oll yn wir, ond sut mae
cynnwys Cymraeg ai peidio yn berthnasol i ystyriaeth “minimeiddio’r risg o
arian ffug” hefyd “anghenion y diwydiant trafod arian parod” ? Parthed
“anghenion defnyddwyr drwy gydol [sic] y Deyrnas Unedig” beth sydd ymhlyg yn
hyn - a fyddai’n niweidio'r defnyddwyr hyn o gael Cymraeg ar arian, yr ydym ni
siaradwyr Cymraeg wedi goroesi er gwaethaf mai Saesneg sy’n bennaf ar arian eich
banc, o ran hynny beth am y “Pleidiol wyf i’m gwlad” ar ran punnoedd ?
Ymhellach y mae’n glem arnaf ddyall sut mae rhoi Cymraeg ar arian yn
effeithio ar rai sydd “â nam ar eu golwg a phobl nad ydynt yn siarad Saesneg”,
os nad ydynt yn siarad Saesneg (na Chymraeg siawns) a fyddai fymryn o otj o
gwbl beth fyddai ar yr arian dybed ?
4) “Hefyd mae
ganddo ddyletswydd statudol i sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau’r
Banc” Pwy ? Ac a oes awgrym yma bod a wnelo’r Gymraeg rywbeth â gwastraff –
ynteu fi sy’n ddrwgdybus ?
5) “Roedd fy
mhwynt cynharach am rifolion Arabaidd ond bod rhifolion Arabaidd yn berffaith
eglur i unigolion pa iaith bynnag maent yn ei siarad, ac mae hon yn nodwedd
bwysig o gynllun y papurau banc.” Hollol wir fod rhifolion Arabaidd yn
ddyalladwy i gylch eang (gan gynnwys siaradwyr Cymraeg a Saesneg) ond beth sydd
a wnelo hyn â defnydd y Gymraeg - beth yw’r pwynt sy’n cael ei gyfleu yma ?
Iwan Edgar
From: Enquiries
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 26 April 2011 17:19
To: [log in to unmask]
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
Annwyl Mr. Edgar
Diolch am eich e-bost diweddaraf.
Mae Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yn
darparu am gyfnod o bontio o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (‘y Ddeddf’), fel nad
yw rhannau perthnasol y Ddeddf yn peidio gweithredu’n uniongyrchol, ac ni
fyddai’r trefniadau hynny dan y Mesur a fyddai’n gweithredu safonau i’r Banc yn
gweithredu’n uniongyrchol.
Yn neilltuol, mae adran 144 o’r Mesur yn darparu bod Rhan 2
o’r Ddeddf yn peidio perthyn i gorff os a phryd y bydd y corff hwnnw’n dod yn
amodol ar ddyletswydd dan adran 25 (1) o’r Mesur i gydymffurfio â safon. Mae
rhan 2 o’r Ddeddf yn perthyn i’r banc oherwydd i Orchymyn Cynlluniau Iaith
Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2008 bennu’r Banc at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf ac
wedi hynny hysbysodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i’r Banc y dylai baratoi Cynllun
Iaith Gymraeg.
Mae adran 25 yn pennu bod rhaid i gorff gydymffurfio â safon
o weithredu a benodir dan y Mesur os, a chyhyd ag, y cwrddir â nifer o amodau.
Hyd yn hyn ni chwrddwyd â’r amodau hynny ynglŷn â’r Banc; felly mae Rhan 2 o
Ddeddf 1993 yn dal i berthyn ynglŷn â’r Banc. Pan fydd safonau’n perthyn i’r
Banc dan adran 25 o’r Mesur, bydd y gofynion dan Ran 2 o’r Ddeddf yn peidio
perthyn. Dyma pam mae’r Banc yn parhau ag ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun
Iaith Gymraeg drafft.
Paratöwyd Cynllun Iaith Gymraeg y Banc gan ymgynghori â
Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg drafft yn datgan bod y Banc
yn cynnig cymryd nifer o fesurau i roi effaith i’r egwyddor o gydraddoldeb
iaith wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, cyn belled ag y bo’n
briodol dan yr amgylchiadau a chyn belled ag y bo’n resymol ymarferol. Nid yw’r
Banc yn cynnig gosod testun Cymraeg (na thestun mewn unrhyw iaith arall) ar
bapurau banc. Wrth ystyried cynllun papurau banc, mae rhaid
i’r Banc ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys minimeiddio’r risg o arian
ffug,anghenion y diwydiant trafod arian parod ac anghenion defnyddwyr drwy
gydol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl â nam ar eu golwg a phobl nad ydynt yn
siarad Saesneg (ai’n byw yma neu’n ymweld). Hefyd mae ganddo ddyletswydd
statudol i sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau’r Banc.Roedd fy mhwynt
cynharach am rifolion Arabaidd ond bod rhifolion Arabaidd yn berffaith eglur i
unigolion pa iaith bynnag maent yn ei siarad, ac mae hon yn nodwedd bwysig o
gynllun y papurau banc.
Bydd yr ymgynhoriad sydd ar gyrraedd ar Gynllun Iaith
Gymraeg drafft y Banc yn gyfle ichi gyflwyno achos os ydych yn ystyried bod
ffactorau eraill y dylai’r Banc eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ynglŷn
â’i ddefnydd o’r Iaith Gymraeg.
Yr eiddoch
Malcolm Shemmonds
From: Iwan Edgar
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, April 06, 2011
1:12 AM
To: Enquiries
Cc: 'Huw Gapper'
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
*************************
This email has reached the Bank via the Internet or an external network
*************************
Diolch am yr ateb
Y mae peth aneglurdeb ynddo i mi:
1) Dywedwch nad yw’n wir nad yw’r Banc yn credu “nad yw ...yn wir o
gwbl” na ddylai gydymffurfio â mesur yr iaith, wedyn dywedwch “nid yw’r Banc ar
hyn o bryd yn destun dyletswyddau o dan y Mesur”. Nid wyf yn dyall.
2) Os pasiwyd deddf newydd yn 2010, onid honno ac nid un 1993 fydd yn
berthnasol ? Mi wn fod rhannau o ddeddf 1993 yn dal yn weithredol tan ddaw
deddf 2010 i lawn rym, a maes o law. Beth fydd y Banc yn ei wneud wedyn ?
3) Parthed rhoi rhifau [Arabaidd] ar bapurau banc, siawns fod hynny yn
peri bod pawb sy’n arddel rhifau Arabaidd (gan gynnwys rhai sydd yn siarad
Saesneg hefyd) yn gweld beth yw y rhif – mae hynny’n gwbl amlwg. Ond beth sydd
a wnelo hynny â ni fel siaradwyr Cymraeg, a’r cais am Gymraeg cyfatebol i’r
Saesneg ? A ellwch egluro perthnasedd hyn i’r ystyriaeth hon ?
4) Ymddengys eich bod wedi anwybyddu’r pedwerydd pwynt yn fy e-bost
blaenorol sef “Pam na fwriedir rhoi testun Cymraeg ar yr hyn sy’n
gyfatebol i’r testun Saesneg ? Beth yw’r rhesymeg dros hyn ?” Felly dyma ei
ofyn eto.
Iwan Edgar
From: Enquiries
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 29 March 2011 10:10
To: [log in to unmask]
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
29 Mawrth 2011
Annwyl Mr. Edgar
Diolch am eich e-bost pellach.
Rydych yn gofyn a yw’r Banc yn credu nad oes angen iddo
gydymffurfio â Mesur y Gymraeg. A gaf eich
sicrhau, os gwelwch yn dda, nad yw hyn yn wir o gwbl. Fel a ddywedais yn fy
ymateb blaenorol ichi, nid yw’r Banc ar hyn o bryd yn destun dyletswyddau o dan
y Mesur. Fel a ddywedais wrthych hefyd, mae’r Banc yn paratoi i ymgynghori ar y
fersiwn drafft o Gynllun Iaith Gymraeg y Banc, a gallaf eich sicrhau fod y Banc
yn gwneud hyn yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Rwy’n disgwyl i’r
ymgynghoriad gymryd lle yn ystod y misoedd nesaf, ac, fel ag addewais yn fy
e-bost blaenorol ichi, byddaf yn sicrhau yr anfonir copi o’r ddogfen ymgynghori
ichi.
Hefyd roeddech yn gofyn am fy sylwad am roi rhifau ar
bapurau punnoedd. Fy unig bwynt oedd i bwysleisio bod y rhifau’n sicrhau y gall
pobl nad ydynt yn gallu siarad Saesneg yn gallu cydnabod y dosbarthiadau o
bapurau punnoedd gwahanol yn hawdd.
Yn gywir
Malcolm Shemmonds
From: Iwan Edgar [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, March 16, 2011
2:01 PM
To: Enquiries
Cc: 'Huw Gapper'; [log in to unmask]
Subject: RE: Iaith ar Arian (Metal
a Phapur)
Diolch am yr ateb. Gan gnoi cil ychydig
arno, carwn ofyn a ganlyn:
1) A yw’r Banc yn credu nad ydyw yn agored i gyd-fynd â’r dywededig
Fesur y Gymraeg ?
2) A yw’r banc yn wirfoddol gydymffurfio â chynllun iaith yn yr hen
ddull (Deddf 1993) ?
3) Beth yn union sydd gennych mewn golwg wrth drafferth dweud
:”mynegir gwerthoedd papurau punnoedd fel rhifau, sydd yr un mor glir i
siaradwyr y Saesneg a siaradwyr y Gymraeg ill dau” ? (Onid ffigurau
Arabaidd eu tras a arddelir gan y byd gorllewinol i gyd ers bwrw heibio y rhai
Lladin rywdro yn yr oesoedd tywyll ? Wyddwn i ddim bod unrhyw ddull arall ar
gael (oni bo i Iolo Morganwg neu gyfaill cyffelyb fod wedi llunio rhai), ac
felly nid oeddwn yn gofyn i chi roi 5, 10, 20 ac ati gyda ryw
symbolau Cymreig eraill anhysbys.)
4) Pam na fwriedir rhoi testun Cymraeg ar yr hyn sy’n gyfatebol i’r
testun Saesneg ? Beth yw’r rhesymeg dros hyn ?
Iwan Edgar
***********************************************************************************
This e-mail is intended for the addressee(s) named above and any
other use is prohibited. It may contain confidential information. If you
received this e-mail in error please contact the sender by return e-mail.
The
Bank of England does not accept legal responsibility for the contents
of this message if it has reached you via the Internet, as Internet
communications are not secure. Any opinions expressed are those of the
author and are not necessarily endorsed by the Bank of England.
Recipients
are advised to apply their own virus checks to this message .
***********************************************************************************
_____________________________________________________________________
This e-mail has been scanned for known viruses by the Messagelabs SkyScan
Service.
_____________________________________________________________________
This e-mail originated from the Internet and has been scanned for known viruses
by the Messagelabs SkyScan Service.
_____________________________________________________________________
This e-mail has been scanned for known viruses by the Messagelabs SkyScan
Service.
_____________________________________________________________________
This e-mail originated from the Internet and has been scanned for known viruses
by the Messagelabs SkyScan Service.
_____________________________________________________________________
This e-mail has been scanned for known viruses by the Messagelabs SkyScan
Service.
_____________________________________________________________________
This e-mail originated from the Internet and has been scanned for known viruses
by the Messagelabs SkyScan Service.
_____________________________________________________________________
This e-mail has been scanned for known viruses by the Messagelabs SkyScan
Service.
_____________________________________________________________________
This e-mail originated from the Internet and has been scanned for known viruses
by the Messagelabs SkyScan Service.
_____________________________________________________________________
This e-mail has been scanned for known viruses by the Messagelabs SkyScan
Service.
_____________________________________________________________________
This e-mail originated from the Internet and has been scanned for known viruses
by the Messagelabs SkyScan Service.
_____________________________________________________________________
This e-mail has been scanned for known viruses by the Messagelabs SkyScan
Service.