Ond on'd ydi hynny'n awgrymu eu bod heb eu pori o'r blaen? Dyna be mae'n ddeud wrtha i. Lleiniau dim pori (fel mannau dim ysmygu)?
'Lleiniau heb eu pori' fellyIn a message dated 27/07/2011 13:56:40 GMT Daylight Time, [log in to unmask] writes:Dwi newydd gael diffiniad:They are small, fenced off areas of the uplands where no grazing whatsoever is allowed, with the aim of monitoring the plant and insect life that thrives in the enclosure to see how much of an impact grazing is having on the upland habitat.----- Original Message -----From: anna gruffyddSent: Wednesday, July 27, 2011 7:26 PMSubject: Re: ATB/RE: grazing enclosures'Silines y peth' fel basa Wil Sam wedi deud
2011/7/27 Meinir Pierce Jones <[log in to unmask]>
Efalla mai'r pwynt ydi mae tir pori neu borfa ydi o pa ddefnydd bynnag a wneir ohono, a phrun a ydi o'n cael ei bori gan ddefaid neu beidio!Sent: Thursday, July 28, 2011 5:07 AMSubject: Re: ATB/RE: grazing enclosuresFelly, ydy 'lleniau caeedig' yn dderbyniol?----- Original Message -----From: Geraint LovgreenSent: Wednesday, July 27, 2011 6:45 PMSubject: Re: ATB/RE: grazing enclosures"braidd..."? Dwi'n meddwl mai "hollol..." ydi'r gair rwyt ti'n chwilio amdano.----- Original Message -----From: Gareth JonesSent: Thursday, July 28, 2011 4:13 AMSubject: Re: ATB/RE: grazing enclosuresMae'r term gwreiddiol braidd yn gamarweiniol. Mae'r darn yn son am 'the absence of grazing', felly dwi'n cymryd na ellir pori'r lleiniau hyn. Dwi hefyd yn cofio gweld rhai ohonynt pan oeddwn ar daith maes yng Nghwm Idwal (tua 1988). Roeddent wedi'u hamgau yn llwyr â ffens (dim giât) ac ni allai defaid fynd i fewn iddynt.----- Original Message -----From: Rhian JonesSent: Wednesday, July 27, 2011 6:06 PMSubject: Re: ATB/RE: grazing enclosuresYdi’r darn yn dweud yn bendant na fydd defaid yn pori’r ‘grazing enclosure’? Mi allai ‘grazing enclosure’ olygu bod defaid yn cael pori’r darn caeedig am gyfnod er mwyn rheoli’r llystyfiant.RhianOnid y diben yw peidio â chael ‘porfeydd’ yn y ‘lleiniau caeëdig’?
Llyr
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Eurwyn Pierce Jones
Sent: 27 July 2011 10:42
To: [log in to unmask]
Subject: grazing enclosures
porfa gaeëdig ?
Eurwyn
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones
Sent: 28 July 2011 03:21
To: [log in to unmask]
Subject: grazing enclosures
Mae'r term hwn yn cyfeirio at leiniau bychan â ffens o'u hamgylch, yng Nghwm Idwal ac ar yr Wyddfa. Ni all defaid bori ynddynt. Y bwriad, am wn i, yw dangos sut fyddai'r llysdyfiant yn mannau hyn heb unrhyw ddefaid yn pori yno.
Fyddai 'lleiniau caeëdig ' yn addas?