Mae dwy neges yn yr archifau (2004 / 2007) yn gofyn am 'functional foods'. Dim ateb i'r naill na'r llall.Dyma un diffiniad ar y we:Functional food is a food where a new ingredient(s) (or more of an existing ingredient) has been added to a food and the new product has a new function (often one related to health-promotion or disease prevention)[1].
'swyddogaeth' fyddai'r cyfieithiad mwyaf addas o'r 'function' yn y diffiniad uchod, efallai, ond fyddwn i ddim am gynnig 'bwyd swyddogaethol'.
"Bwyd gweithredol" yw cynnig TermCymru, ond prin iawn yw'r enghreifftiau o 'fwyd gweithredol' ar y we.
Oes rhyw ymadrodd arall sy'n cael ei ddefnyddio? A fyddai 'bwydydd llesfawr' yn rhy eang? A fyddai 'bwydydd llesweithredol' yn bosib? Fe fyddai'n cyfleu'r ystyr yn well na'r Saesneg, ac yn cadw'r syniad o 'weithred' / function.Diolch am unrhyw gynigion,
Matthew